Skip to content

Gwirfoddoli ymysg pobl ifanc

Rydym wedi ymrwymo i annog a galluogi pobl ifanc i wirfoddoli.

Cymunedau Cymru sy’n elwa o roi cyfle i fwy o bobl ifanc gymryd rhan ymarferol fel dinasyddion.

Trwy weithio’n agos â’n partneriaid yn y Trydydd Sector, busnesau, llywodraeth ac â’r bobl ifanc eu hunain, rydym yn gweithio’n galed i berswadio mwy o bobl ifanc i wirfoddoli.

GwirVol

Mae GwirVol yn bartneriaeth rhwng y sector Gwirfoddol, y sector Cymunedol, y sector Cyhoeddus a’r sector Preifat, a barn pobl ifanc Cymru sydd yn ei harwain. Pwrpas y Bartneriaeth yw gweithredu argymhellion Comisiwn Russell. Mae’r argymhellion hyn yn rhoi fframwaith ar gyfer newid fesul cam nifer ac amrywiaeth y gwirfoddolwyr ifanc a chreu mwy o gyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd da iddynt.

Nodau ac Amcanion

Nod y Bartneriaeth yw:

  • cynyddu canran bresennol y bobl ifanc 16 – 25 oed sydd am wirfoddoli; 
  • ehangu cwmpas cyfleoedd gwirfoddoli i gynnwys pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau oherwydd anfantais, gallu neu ethnigrwydd; 
  • dathlu cyfraniad pobl ifanc trwy roi cydnabyddiaeth a gwobrau iddynt; 
  • sicrhau bod pob cyfle i wirfoddoli yn cynnig profiad cadarnhaol o ansawdd uchel.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i borth y wefan Gwirvol.

O fis Ebrill 2011, bydd GwirVol hefyd yn ymgorffori Gwirfoddolwyr y  Mileniwm, sef rhaglen wirfoddoli seiliedig ar oriau i bobl ifanc 16-24 oed.

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am Wirfoddolwyr y Mileniwm ar wefan GwirVol.