Skip to content

Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector

Dolenni perthnasol

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn cefnogi ac yn hyrwyddo grwpiau gwirfoddol a chymunedol a gwirfoddolwyr.
Siapiau papur o bobl yn dal dwylo.
Er mwyn gweithio’n effeithiol gyda’r Trydydd Sector, sefydlwyd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn 2007, a hynny fel y cam nesaf ar ôl Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol yn 2000.

Y Cadeirydd yw y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, sef y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb yng Nghymru. Mae dau ddeg pump o aelodau sydd wedi’u penodi o’r Trydydd Sector i gynrychioli meysydd o ddiddordeb strategol penodol.

Mae Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector:

  • yn hwyluso’r gwaith o ymgynghori â sefydliadau Trydydd Sector a chyrff sector cyhoeddus perthnasol ynghylch gweithredu’r Cynllun, ei redeg a’i adolygu; a
  • yn ystyried materion sy’n berthnasol i swyddogaethau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, sy’n effeithio ar y Trydydd Sector neu sy’n destun pryder iddo. Mae hefyd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Mae Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector wedi datblygu cynllun gwaith ar gyfer 2011-12. Gallwch edrych ar hwn, ynghyd ag agendâu, cofnodion a phapurau cyfarfodydd blaenorol.