Skip to content

Y Fframwaith Rheoli Perfformiad

Mae'r Fframwaith Rheoli Perfformiad yn helpu pawb sy'n comisiynu ac yn rheoli gwasanaethau camddefnyddio sylweddau i ddeall beth sydd ei angen a beth sy'n gweithio. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod polisïau a strategaethau camddefnyddio sylweddau yn cael eu gweithredu'n effeithiol.

Nodwyd yn glir yn ein strategaeth camddefnyddio sylweddau, "Delio â Chamddefnyddio Sylweddau yng Nghymru: Y Dull Partneriaeth", bod asesu trwyadl o'r broses weithredu yn hanfodol. Mae'r Fframwaith yn darparu'r wybodaeth reoli sydd ei hangen i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae hefyd yn helpu'r gwasanaethau i barhau i ddatblygu a darparu cymorth mwy effeithiol.  

Mae'r Fframwaith Rheoli Perfformiad yn cael ei ddatblygu gan Brosiect y Fframwaith Rheoli Perfformiad. Mae gan y Prosiect hwn dri amcan i'w cyflawni, sef darparu:

  1. System safonedig i Gymru gyfan ar gyfer casglu data ac adrodd.
    Cyflawnwyd yr amcan hon ar 1 Ebrill 2005 pan gafodd Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau ei rhoi ar waith. 
  2. Dangosyddion Perfformiad Cymru Gyfan.
    Cyflawnwyd yr amcan hon ym mis Awst 2006 pan gyhoeddwyd y Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar driniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau yng Nghymru. 
  3. Rhaglen Ymchwil a Gwerthuso.
    Mae'r gwaith yn parhau.