Skip to content

Gwerthusiad Cenedlaethol Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan Rhagfyr 2007

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Nod y gwerthusiad hwn oedd mesur effaith Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan ar blant a phobl ifanc.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a phedwar o'r Heddluoedd yng Nghymru yn cydariannu Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan sydd ar hyn o bryd ar waith mewn 97% o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru.

Mae'r bartneriaeth rhwng yr ysgolion a'r heddlu yn rhoi strategaeth gadarnhaol i'r ysgolion fel bod gan ein holl ddisgyblion gyfleoedd i gynyddu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth, eu hymddygiad, eu hagwedd a'u sgiliau ynghylch y canlynol:

  • camddefnyddio sylweddol gan gynnwys alcohol
  • ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • diogelwch personol

Ym mis Rhagfyr 2007, cynhaliwyd gwerthusiad i fesur effaith Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan ar Blant a Phobl Ifanc ac fe wnaed y gwaith gan gwmni Hyfforddiant ac Ymgynghori Markit Cyf.