Skip to content

Yr Heddlu

Dolenni perthnasol

Gwneud cymunedau yn fwy diogel.
Cerbyd yr heddlu.

Mae cyfranogiad a chydweithrediad yr heddlu a Llywodraeth Cymru yn hanfodol er mwyn creu Cymru ddiogel a ffyniannus.

Er nad yw plismona’n faes sydd wedi’i ddatganoli, mae pedwar heddlu Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ac mae ganddynt gysylltiadau agos â Llywodraeth Cymru. Mae gan yr heddlu bresenoldeb parhaus yn Llywodraeth Cymru ar ffurf dau swyddog ar secondiad, uwch-arolygydd ac arolygydd, sef Tîm Cyswllt yr Heddlu.

Mae Tîm Cyswllt yr Heddlu yn cynnig un pwynt cyswllt â phedwar heddlu Cymru. Maent yn cydweithio’n agos â’r Is-adran Diogelwch Cymunedol ac yn trafod materion sy’n ymwneud â’r heddlu a diogelwch cymunedol gyda swyddogion o bob rhan o Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol.

Gallwch gael gwybodaeth gyffredinol am bedwar Heddlu Cymru drwy fynd i’r gwefannau isod:

Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Awdurdod Heddlu Gwent

Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru

Awdurdod Heddlu De Cymru