Skip to content

Partneriaethau Diogelwch Cymunedol

Dolenni perthnasol

Mae Llywodraeth Leol yng Nghymru yn cynnwys cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol; awdurdodau’r heddlu, y parciau cenedlaethol a thân ac achub; a chynghorau tref a chymuned.
Mae cyfranogiad a chydweithrediad yr heddlu a Llywodraeth Cymru yn hanfodol er mwyn creu Cymru ddiogel a ffyniannus.
Atal tân ac ymateb i dân.
Rydym yn cydnabod bod y Trydydd Sector yn cyfrannu’n fawr at fywyd yng Nghymru.
Mae rhyw 3 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru ac yn defnyddio gwasanaethau’r GIG.
Siapiau papur o bobl yn dal dwylo.

Grwpiau o fudiadau lleol sy’n gweithio gyda’i gilydd i ostwng lefelau troseddu a chamddefnyddio sylweddau yw Partneriaethau Diogelwch Cymunedol.

Dyma’r math o sefydliadau sy’n rhan o’r partneriaethau hyn:

  • yr heddlu
  • yr awdurdodau lleol
  • y Gwasanaeth Tân ac Achub
  • y GIG
  • mudiadau gwirfoddol
  • busnesau
  • grwpiau cymunedol.

Drwy ddod â rhannau gwahanol o’n cymunedau at ei gilydd, gallwn fod yn fwy llwyddiannus wrth ostwng troseddu. Drwy wneud hyn, rydym yn cydnabod bod troseddu yn broblem gymhleth sy’n cael ei hachosi gan nifer o ffactorau cymdeithasol ac economaidd. Mae cael heddlu effeithiol yn hollbwysig, ond mae angen gwneud mwy nag ymateb i droseddu – mae’n rhaid mynd i’r afael â’r holl ffactorau sy'n ei achosi.

Mae 22 o Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol yng Nghymru, sef un yn ardal pob awdurdod lleol. Mae pob partneriaeth yn defnyddio'i dealltwriaeth o’r blaenoriaethau lleol er mwyn mynd ati i ostwng lefelau troseddu a chamddefnyddio sylweddau. Mae’r dull hwn o weithredu yn lleol yn caniatáu i bob Partneriaeth fynd i’r afael â’r materion sy’n bwysig i’w chymuned hi.