Skip to content

Tân ac achub

Dolenni perthnasol

Rydym am gael eich barn ar reoliadau arfaethedig fydd yn ei gwneud hi’n orfodol i osod systemau chwistrellu a systemau atal tân mewn tai newydd a thai wedi’u haddasu.
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried a yw’r dull hwn o ddarparu gwasanaethau tân ac achub yn ymarferol yn y tymor hir, mewn ardaloedd gwledig yn bennaf.
Mae’r strategaeth hon yn amlinellu gweledigaeth a chyfeiriad Llywodraeth Cymru a’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru ar gyfer darparu gweithgareddau ymyrraeth Plant a Phobl Ifanc.
Mae'r Gronfa Buddsoddi i Arbed yn cefnogi ffyrdd newydd o weithio fel y gellir darparu gwasanaethau yn fwy effeithiol ac effeithlon.
Dynion tân yn diffodd tân.

Atal tân ac ymateb i dân.

Ers i'r Gwasanaeth Tân ac Achub gael ei ddatganoli'n ffurfiol yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru, yr Awdurdodau Tân ac Achub, personél y gwasanaethau a'n partneriaid a'n rhanddeiliaid allweddol eraill wedi bod yn gweithio i sicrhau ein bod yn parhau i gael y gwasanaethau tân ac achub gorau posibl.

Rydym yn cydnabod bod darparu gwell gwasanaethau tân ac achub ar gyfer pobl Cymru yn dibynnu i raddau helaeth ar ymdrechion yr awdurdodau tân ac achub unigol i weithio gyda’u cymunedau lleol a chyda’i gilydd. Drwy gydweithio, gallwn leihau nifer y marwolaethau a'r anafiadau sy’n cael eu hachosi gan danau, a diogelu eiddo domestig a chyhoeddus yng Nghymru.

Mae gennym hefyd rôl bwysig i’w chwarae o safbwynt atal tân, ac o ran addysgu a chysylltu â chymunedau ledled Cymru. Mae diffoddwyr tân yn bobl uchel eu parch y gall ein pobl ifanc eu hefelychu, tra bo gorsafoedd tân, llawer ohonynt mewn lleoliadau canolog yn ein cymunedau, yn datblygu'n ganolbwynt pwysig ar gyfer gweithgareddau cymunedol, yn ogystal â chyflawni'u rôl draddodiadol.

Bydd y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn gweithio i ddarparu gwasanaethau a fydd yn ymateb i’r galw ac yn parhau i gynnig y safonau uchel yr ydym bellach yn eu disgwyl.