Gwasanaethau Cymorth Cyffredinol
Grŵp Strategol Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Wrecsam
Yn cefnogi Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam wrth iddi gyflawni'i gwaith o fynd i'r afael â throseddau rhywiol difrifol a cham-drin domestig a lleihau nifer yr achosion hynny. Rôl y grwpiau aml-asiantaeth yw ymateb i'r canllawiau a'r cyfeiriad sydd yn y Strategaeth Genedlaethol a datblygu a darparu ymateb cydgysylltiedig drwy gynllun gweithredu lleol.
Siop-un-stop ar gyfer cam-drin domestig yw BAWSO yn Wrecsam sy'n tynnu ynghyd i un lleoliad y gwasanaethau y mae eu hangen fwyaf ar y rhai sy'n dioddef o gam-drin domestig a'r rhai sydd wedi dioddef o gam-drin domestig yn y gorffennol. Mae BAWSO yn darparu cymorth arbenigol i bobl o'r Gymuned Pobl Dduon a Lleiafrifoedd ethnig, gan gynnwys Sipsiwn, Teithwyr a Gweithwyr Mudol.
Ffôn: 01978 355818
Ffacs: 01978 355707
E-bost:
wrexham@bawso.org.uk
Cyfeiriad: 33 Ffordd Grosvenor, Wrecsam, LL11 1BT
Yn cynnig mynediad at holl wasanaethau'r awdurdod lleol.
Plant a phobl ifanc
Partneriaeth aml-asiantaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy'n cynnig cyngor a chymorth i bobl ifanc fedru cynnal eu tenantiaeth.
Ffôn: 01978 315130
Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd NSPCC Gogledd Cymru
Yn cynnig ymyrraeth i deuluoedd, unigolion, plant a phobl ifanc sydd wedi profi trawma gan gynnwys trais rhywiol neu gam-drin domestig. Rydym hefyd yn cynnal sawl rhaglen ar gyfer gweithio mewn grwpiau: Butterflies - Rhaglenni Cam-drin Domestig - yr Hawl i fod yn Ddiogel - gan gynnwys cymorth i fenywod, plant a phobl ifanc sydd mewn perygl, y rhaglen Tadau Gofalgar (The Caring Dads) a'r rhaglen Siarad â Mam (Talking to my Mum).
Gall teuluoedd neu unigolion gyfeirio'u hunain at y gwasanaeth hwn neu fe all gweithiwr proffesiynol eu cyfeirio. Gall menywod wneud cais am gymorth pan fyddant wedi gadael lloches neu'r berthynas lle y maent yn cael eu cam-drin.
Ffôn: 0844 8920275
Cyfeiriad: Warren House, Warren Drive, Prestatyn, Sir Ddinbych, LL19 7HT
E-bost:
Prestatyn@nspcc.org.uk
Prosiect Pobl Ifanc Wrecsam
Prosiect mewn partneriaeth â Shelter Cymru, mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyngor a chymorth am dai i bobl ifanc 16 - 25 oed sydd wedi colli'r man sefydlog lle'r oeddent yn byw a'u bod, naill ai yn chwilio am lety newydd neu eisiau help i chwilio am gymorth neu gymorth ariannol. Caiff pobl ifanc eu hannog i alw i mewn ar unrhyw adeg i drafod eu problemau.
Pobl ifanc 16 - 25 oed sydd angen cyngor a chymorth am dai.
Ffôn: 01978 314314 neu 01978 367030
I bobl ifanc sy'n 18+ oed ac sydd angen bwyd, dillad a chymorth lles.
Ffôn: 01978 314314 neu 01978 367030
MIND Wrecsam
Cymorth i oedolion sydd ag anghenion iechyd meddwl parhaus. Mae'n wasanaeth cymorth dwys mewn llety sy'n hyrwyddo annibynniaeth drwy gynnig cymorth gyda sgiliau bywyd, cyllidebu, sgiliau yn y cartref a sgiliau cymdeithasol.
Ffôn: 01978 366155
Cyffuriau ac alcohol
Datblygwyd y wefan hon fel ffynhonnell o wybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau, eu teulu a'u ffrindiau, y gymuned leol a gweithwyr proffesiynol y mae arnynt angen gwybodaeth am gyffuriau ac alcohol.
Tai
-
Hurst Newton – Llety i bobl ifanc gan gynnwys cymorth i'w galluogi i fyw'n annibynnol. Ffôn 01978 363761.
-
Foyer – Llety a chymorth i bobl ifanc sy'n fodlon cael eu hyfforddi i wella sgiliau bywyd a chyfleoedd gwaith yn y dyfodol. Ffôn 01978 262222.
-
Hafan - Llety a chymorth tymor byr i bobl ifanc digartref. Ffôn 01978 268110.
-
Cynllun Cymorth fel y bo'r Angen – Cymorth ar gyfer sicrhau tenantiaeth a chynnal y denantiaeth honno. Ffôn 01745 536800.
Gwasanaeth ledled y wlad sy'n darparu cymorth fel y bo'r angen a chymorth tai i fenywod sydd ag amrywiaeth o anghenion, gan gynnwys cam-drin domestig, problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.
Ffôn: 01978 823077
Prosiect Gobaith – Hafan Cymru
Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cymorth i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig ar hyn o bryd neu sydd wedi dioddef yn ddiweddar.
Yn rhoi cymorth i bobl yn eu cartrefi eu hunain er mwyn atal digartrefedd drwy alluogi menywod a'u plant i aros yn ddiogel yn eu tenantiaethau a chymunedau presennol.
Mae Hostel Sant Ioan yn darparu cartref dros dro diogel mewn llety wedi'i rannu ynghyd â chynllun datblygu personol cynhwysfawr i bob un o'r preswylwyr, gan amlinellu sut y maent eisiau newid eu bywydau a sut y gallwn ni eu helpu i gyrraedd eu nodau.
Ffôn: 01978 355155
Ffacs: 01978 361 991
E-bost:
st.johns@thewallich.net
Cyfeiriad: Sant Ioan, Ffordd Caer, Wrecsam, LL12 7AX
Yn darparu gwasanaeth cymorth i bobl sydd wedi'u gosod mewn llety dros dro i'r digartref (gan gynnwys llety gwely a brecwast) gan Dîm Digartrefedd Awdurdod lleol Wrecsam.
Ffôn: 01978 340915
Ffacs: 01978 448289
Cyfeiriad: Tŷ Richmond, 31 Ffordd Grosvenor, Wrecsam, LL11 1BT
darparu tai a chymorth i Bobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yng Nghymru.
Ffôn: 0808 801 0306
Mae'r gwasanaeth hwn yn mynd i'r afael â'r hyn sydd wrth wraidd digartrefedd drwy weithio'n bennaf gyda phobl ifanc sy'n wynebu gwrthdaro sy'n bygwth eu cartrefi. Rydym yn defnyddio myfyrdod i helpu pobl ddatrys gwrthdaro drwy geisio dod o hyd i atebion sy'n dderbyniol i bawb.
Partneriaeth yw' prosiect rhwng The Wallich, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Sirol Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Sir Ddinbych ac mae'n gweithio yn ardaloedd Awdurdodau Lleol Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych.
Ffôn: 01978 340914
E-bost:
wrexham.crs@thewallich.net
Pobl hŷn
Darperir cymorth i bobl dros 50 oed yn eu cartrefi eu hunain gan gynnig atebion ymarferol i ystod eang o faterion gan gynnwys unigedd cymdeithasol, annibyniaeth a lles.
Ffôn: 08450 549969
Yr Heddlu
Treisio a Thrais Rhywiol
Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Gogledd Cymru
Ffôn: 01492 805384
Cyfeiriad: 1 Clos Bryn Eirias, Bae Colwyn
Y Ganolfan hon yw'r unig ganolfan argyfwng trais yng Nghymru ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â'r Canolfannau Cymorth Trais a Cham-drin Rhywiol, ac yn arbennig y Ganolfan yng Ngogledd Cymru. Mae'r Ganolfan yn gweithio mewn dwy ffordd; darparu gwasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer pobl sydd wedi dioddef unrhyw fath o drais rhywiol, a gwaith ataliol drwy addysg a hyfforddiant ymwybyddiaeth. Ni chodir tâl am unrhyw un o'r gwasanaethau ac mae staff y Ganolfan yn cydweithio â dynion, menywod a phlant dros 11 oed o bob rhan o Ogledd Cymru.
Maent yn cynnig cwnsela un i un, gwasanaethau eirioli, llinell gymorth, cymorth ymarferol, hyfforddiant a gweithdai codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion, ar gyfer sefydliadau eraill, hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr, gwybodaeth a chyfeirio. Mae ganddynt hyd at 60 o wirfoddolwyr ar draws Gogledd Cymru.
Llinell gymorth: 01286 669266
Swyddfa: 01286 669267
Cyfeiriad: Blwch Post 87, Caernarfon, Gwynedd, LL55 9AA
Gwasanaethau Merched
Canolfan Merched Gogledd Cymru
Mae Canolfan Merched Gogledd Cymru'n darparu cymorth un i un ar gyfer menywod sy'n dioddef cam-drin domestig. Rydym yn darparu 'siop un stop' diogel o wasanaethau drwy weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill. Rydym hefyd yn darparu cymorth 'ar ôl argyfwng' i fenywod sydd wrthi'n ailadeiladu eu bywydau. Rydym yn darparu cyngor, arweiniad, cwnsela, grwpiau cymdeithasol, hyfforddiant, addysg, sgiliau cyflogaeth, hyfforddiant mewn datblygiad personol a chymorth yn ymwneud â phob mater sy'n effeithio ar fenywod.
Ffôn: 01745 339331
Cyfeiriad: 46-54 Stryd y Dŵr, Y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 1SS
Gwasanaeth Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA) Wrecsam
Mae'r Gwasanaeth yn gweithio i geisio mynd i'r afael â diogelwch dioddefwyr sy'n wynebu'r perygl fwyaf gan eu partneriaid agos, cyn-bartneriaid neu aelodau o'r teulu, a hynny fel arfer o adeg yr argyfwng er mwyn asesu lefel y risg, trafod yr ystod o opsiynau addas sydd ar gael a llunio cynlluniau diogelwch. Mae'r Gwasanaeth yn cydweithio'n agos gyda chleientiaid sy'n defnyddio'r system cyfiawnder troseddol ac yn enwedig y Llysoedd Arbenigol ar gyfer Trais Domestig a'r Gynhadledd Asesu Risg Aml-Asiantaeth (MARAC).
Ffôn: 01978 291555
Cyfeiriad: 6 Rhes y Deml, Wrecsam, LL13 8LY
E-bost:
IDVAwrexham@btconnect.com
Cymorth i Ferched Wrecsam
Mae'r gwasanaethau'n cynnwys 'sesiynau galw i mewn, allgymorth, Women in Safe Homes (WISH), y Rhaglen Rhyddid, boreau coffi a Lloches i ferched.
Cynigir gwasanaeth drws agored i fenywod sydd mewn argyfwng a'u plant gan ddarparu llety, gwybodaeth a chymorth ymarferol o ran budd-daliadau, tai, gweithwyr cyfreithiol etc. Mae'r cynllun Lloches hefyd yn darparu cyngor ailsefydlu a chymorth parhaus am gyfnod o 6 mis. Mae'r lloches hon hefyd yn gallu rhoi cymorth i fenywod sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol.
Ffôn: 01978 310203