Skip to content

Sir Fynwy

Abaty Tyndyrn
Y gwasanaethau cymorth sydd ar gael sy'n benodol i ardal Sir Fynwy (Dolenni Allanol).

Gwasanaethau Cymorth Cyffredinol

Fforwm Cam-drin Domestig Sir Fynwy

Mae'r fforwm wedi llunio cyfeiriadur sy'n cwmpasu'r holl asiantaethau lleol sy'n gallu helpu gyda phob agwedd ar y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar ddioddefwyr a phlant.

Cyfeiriadur Cam-drin Domestig Sir Fynwy

Mae'r cyfeiriadur yn cwmpasu'r holl asiantaethau lleol sy'n gallu helpu gyda phob agwedd ar y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar ddioddefwyr a phlant. Mae hynny'n cynnwys cymorth ynghylch cam-drin domestig, yr heddlu a gwasanaeth cyfreithiol, tai, gwasanaethau plant a theuluoedd, ysgolion, asiantaethau alcohol a chyffuriau ac Iechyd.

Gwefan yr Awdurdod Lleol

Yn cynnig mynediad at holl wasanaethau'r awdurdod lleol.

Tai

Llamau

Elusen ar gyfer pobl ddigartref yw Llamau sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc a menywod yn Ne Cymru sy'n agored i niwed, sydd wedi'u hallgáu'n gymdeithasol ac sy'n ddigartref neu'n debygol o fod yn ddigartref.

Pobl hŷn

Age Concern Gwent

Ffôn: 01633 763 330

Yr Heddlu

Heddlu Gwent – Timau heddlu Sir Fynwy

Gwasanaethau Menywod

Cymorth i Ferched Sir Fynwy Cyf. (WAIMON)  

Dyma'r brif elusen yn Sir Fynwy ynghylch cam-drin domestig. Mae'n elusen sy'n cynnig cymorth emosiynol ac ymarferol  a gwybodaeth i fenywod a phlant sy'n dioddef cam-drin domestig, neu sydd wedi dioddef cam-drin domestig yn y gorffennol.

Rydym yn gweithredu ledled y sir, gan gynnwys yn y Fenni, Trefynwy, Caldicot, Cas-gwent a'r cymunedau cyfagos, ac mae ein prosiectau allgymorth ac ymchwil yn ymestyn hyd at Flaenau Gwent.