Skip to content

Troseddwyr â Blaenoriaeth a Throseddwyr Cyson Eraill

Dolenni perthnasol

Rhaglen sy'n dangos sut y gall nifer o asiantaethau yn cydweithio â'i gilydd leihau troseddu.
Mae'r ymchwil hon yn archwilio pa mor effeithiol yw dulliau ymyrryd presennol y broses o ddarparu llety ar gyfer carcharorion di-gartref sy'n cael eu rhyddhau yng Nghymru.
Carchar.

Amcangyfrifir bod tua 10% o droseddwyr gweithgar yn gyfrifol am bron i 50% o'r holl droseddau sy'n digwydd. Troseddwyr â Blaenoriaeth a Throseddwyr Cyson Eraill yw’r rhain, a hwythau sy’n peri'r niwed mwyaf i gymunedau.

Mae’r Strategaeth Troseddwyr â Blaenoriaeth a Throseddwyr Cyson Eraill yn mynd i’r afael â’r broblem mewn tair ffordd:

  • Rhwystro ac Atal. I atal pobl (pobl ifanc yn bennaf) rhag ymddwyn yn droseddol a datblygu’n droseddwyr cyson.
  • Dal ac Euogfarnu. Mynd ati’n weithgar i ymdrin â’r rheini sydd eisoes yn droseddwyr cyson neu’n droseddwyr eraill â blaenoriaeth.
  • Adsefydlu ac Ymsefydlu. Gweithio gyda throseddwyr cyson penodol er mwyn rhoi'r gorau i'w troseddu trwy gynnig amrywiaeth o ymyriadau cefnogol. Bydd y troseddwyr yn cael cynnig cyfle i adsefydlu neu'n gorfod mynd gerbron y llysoedd eto.

Rhaid i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol Lleol nodi:

  • y troseddwyr mwyaf cyson
  • yr unigolion sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol yn fwyaf rheolaidd
  • yr unigolion sy'n peryglu fwyaf ddiogelwch a hyder eu cymunedau.

Ceir mwy o wybodaeth ar wefan Gostwng Troseddu y Swyddfa Gartref.

Darllenwch: Gwybodaeth am Droseddwyr â Blaenoriaeth a Throseddwyr Cyson Eraill ar y wefan Gostwng Troseddu (gwefan allanol).