Skip to content

Rhwydwaith Dadansoddwyr Cymru Gyfan

Dolenni perthnasol

Mae ymchwil yn sylfaenol i'r gwaith sy'n cael ei wneud ym maes tai ac adfywio cymunedol.
Beiro a chyfrifiannell ar ddalen o bapur sydd â graffiau arni.
Mae Rhwydwaith Cymru Gyfan y Dadansoddwyr yn fforwm ar gyfer dadansoddwyr ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn lleihau troseddu a diogelwch cymunedol.

Mae Rhwydwaith Dadansoddwyr Cymru Gyfan yn rhoi cyfle i'r gymuned ddiogelwch ledled Cymru sy'n ymgymryd â gwaith dadansoddi ac ymchwil, rwydweithio, cyfnewid syniadau a rhannu gwybodaeth.

Mae Tîm Ymchwil a Dadansoddi Ranbarthol y Swyddfa Gartref (Cymru a'r De Orllewin) wedi'i leoli gyda Thîm Troseddu'r Swyddfa Gartref yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, a nhw sy'n cydlynu'r Rhwydwaith.  Mae eu gwaith yn cynnwys hwyluso cyfathrebu a chynorthwyo gyda thudalennau gwefan a chylchlythyr chwarterol Rhwydwaith Dadansoddwyr Cymru Gyfan. 

Os oes diddordeb gennych mewn ymuno â'r rhwydwaith, cysylltwch â ThîmYmchwil a Dadansoddi Ranbarthol y Swyddfa Gartref drwy anfon e-bost i: homeofficeresearch@wales.gsi.gov.uk.