Skip to content

Mentrau cymdeithasol

Dolenni perthnasol

Adolygiad y grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardrethi Busnes o ryddhad ardrethi busnes i elusennau yng Nghymru.
Adolygiad o drefniadau cyllid craidd Datblygu Mentrau Cymdeithasol
Rydym yn cydnabod bod y Trydydd Sector yn cyfrannu’n fawr at fywyd yng Nghymru.
Ein nod yw ehangu a thyfu’r sector mentrau cymdeithasolledled Cymru. Mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn gyfle i adolygu, adnewyddu a diweddaru Strategaeth 2005 a’r Camau Gweithredu ynddi.
Lawrlwythwch y crynodeb gweithredol a'r adroddiad terfynol yma.
Pobl yn sefyll mewn cylch ac yn gwenu.
Ein rôl ar gyfer mentrau cymdeithasol llwyddiannus yng Nghymru yw rhoi’r cymorth priodol iddynt ddatblygu, tyfu a ffynnu.

Ein gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw bod mentrau cymdeithasol deinamig a chynaliadwy yn cryfhau economi gynhwysol a ffyniannus. Mae hefyd angen i ni sicrhau mwy o gydnabyddiaeth i’r manteision y mae’r sector menter gymdeithasol yn eu cynnig i fywyd economaidd Cymru. Mae’n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth i annog, datblygu a chynnal mentrau cymdeithasol ar bob cam wrth iddynt ddatblygu.

Ein nod

Dyma’n nod ar gyfer mentrau cymdeithasol:

  • Creu amgylchedd sy’n annog mentrau cymdeithasol newydd ac yn manteisio ar gyfleoedd am dwf;
  • sefydlu cymorth integredig ar gyfer y sector gyda’r prif ffrwd;
  • asiantaethau arbenigol yn arwain at greu sector menter gymdeithasol ffyniannus yng Nghymru.

Beth yw menter gymdeithasol?

Busnes ag amcanion cymdeithasol yw menter gymdeithasol. Caiff unrhyw elw dros ben ei ail-fuddsoddi at y diben hwnnw yn y busnes neu’r gymuned, yn hytrach na gwneud elw i gyfranddeiliaid a pherchnogion.

Mae mentrau cymdeithasol yn mynd i’r afael ag amrywiaeth eang o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol. Maent yn cystadlu yn y farchnad yn yr un modd â busnesau eraill, gan ddefnyddio’u sgiliau busnes i gyflawni nodau cymdeithasol. Yn yr un modd â busnesau eraill, nod mentrau cymdeithasol yw cynnal eu busnes a gwneud elw. Y gwahaniaeth yw’r hyn a wneir gyda’r elw.

Beth yw’r economi gymdeithasol?

Mae’r economi gymdeithasol yn cynnwys yr amryw gyrff sy’n gweithio y tu allan i’r sector preifat a’r sector cyhoeddus. Maent yn cynnwys:

  • Mudiadau gwirfoddol;
  • Grwpiau cymunedol;
  • Grwpiau hunan-gymorth;
  • Cydweithredfeydd a mentrau cymunedol;
  • Mudiadau crefyddol;
  • Mudiadau dosbarthu dielw eraill sydd o fudd i gymunedau a phobl Cymru.