Skip to content

Cynhwysiant digidol

Dolenni perthnasol

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno synthesis o dystiolaeth sydd ar gael ar gynhwysiant digidol ac ymgysylltu yng Nghymru.
Mae'r Cynllun Cyflawni Cynhwysiant Digidol yn dilyn Sicrhau Cynhwysiant Digidol: Fframwaith Strategol i Gymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2010.
Mae'r fframwaith yn cydnabod nad oedd unrhyw weledigaeth cyn hyn ar gyfer sicrhau cynhwysiant digidol yng Nghymru, na thargedau wedi’u gosod.
Mae Cymru Ddigidol yn amlinellu dyfodol digidol disgleiriach i bawb yng Nghymru.
Er mwyn bod yn genedl wirioneddol ddigidol sy’n elwa ar fanteision economaidd a chymdeithasol eang, mae’n gwbl hanfodol cael seilwaith digidol hyblyg sy’n gallu cystadlu’n fyd-eang.
Hen bobl yn defnyddio cyfrifiaduron
Mae cynhwysiant digidol yn faes newydd pwysig sydd wedi dod i frig yr agenda cynhwysiant cymdeithasol yn ddiweddar.

Heddiw mae'r gallu i ddefnyddio technolegau newydd yr un mor bwysig â darllen ac ysgrifennu. Mae'r unigolion nad ydynt yn meddu ar y sgiliau hyn yn debygol o fod yn fwy ar eu colled o safbwynt economaidd a chymdeithasol.

Dyma agenda sy'n ymwneud â phobl a gwella eu bywydau; y gallu i gyfathrebu yn haws; cael gafael ar nwyddau yn haws ac yn rhatach a'i gwneud yn haws manteisio ar wasanaethau cyhoeddus. Mae Cynhwysiant Digidol hefyd yn ymwneud â lleihau ynysu cymdeithasol. Mae'n fanteisiol i bobl fel dinasyddion a defnyddwyr.

Mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymedig i fynd i'r afael ag allgáu digidol fel y'i adlewyrchir yn ei menter 2.0 a'i Fframwaith Cynhwysiant Digidol.

Cafodd y fenter Cymunedau 2.0 ei sefydlu ym mis Ebrill 2009 gyda chyllideb o £19.9 miliwn am gyfnod o chwe blynedd. Mae'r prosiect yn helpu grwpiau'r sector cymunedol a gwirfoddol a mentrau cymdeithasol i ddefnyddio technolegau. Fe'i cyflwynir gan gonsortiwm o bum corff o dan arweiniad Canolfan Cydweithredol Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cymunedau 2.0.

Yn dilyn cyfnod ymgynghori o dri mis, cyhoeddwyd Fframwaith Cynhwysiant Digidol ym mis Rhagfyr 2010. Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu defnyddio'r Fframwaith hwn i roi arweiniad strategol pendant ac mae'n amlinellu ein hymrwymiad i helpu i oresgyn y  rhwystrau i'r rheini sy'n dioddef allgáu digidol yng Nghymru. Mae Cynllun Cyflawni Cynhwysiant Cymdeithasol wedi'i ddatblygu i osod y targedau i'w cyflawni a'r tasgau i'w gwneud.

Mae Uned Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddatblygu polisïau strategol, gweithgareddau rhynglywodraethol a goruchwylio'r broses o sicrhau cynhwysiant digidol sydd â'r nod o ddenu pobl at dechnolegau a mynd i'r afael â'r rhwystrau rhag allgáu digidol.

Bydd yr Uned yn gweithio gyda sefydliadau i sicrhau eu bod yn deall ac yn croesawu dulliau cynhwysiant digidol yn y gobaith y bydd y sefydliadau'n newid eu polisïau a'u harferion.