Skip to content

Arian a Chynhwysiant Ariannol

Dolenni perthnasol

l sy'n ystyried ac yn cyflwyno'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr adolygiad ac yn gwneud argymhellion
Nod y gwerthusiad hirdymor yw asesu effaith ac effeithlonrwydd y prosiect ac adolygu i ba raddau y cafodd ei nodau ac amcanion eu cyflawni.
Mae’r wefan newydd yn rhoi dolenni i wahanol wasanaethau cymorth a chyngor ariannol.
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi blas ar y cynnydd a wnaed dros y flwyddyn gyntaf ers i'r Strategaeth gael ei chyhoeddi.
Mae cyhoeddi Strategaeth Cynhwysiant Ariannol am y tro cyntaf yng Nghymru yn dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn ac i gynorthwyo'r rhai hynny na ddylid cael eu hallgáu ariannol.
Mae'r cynllun hwn yn disgrifio prif amcanion ein hymrwymiad i atal tlodi, i helpu pobl i oresgyn tlodi ac i leddfu effaith tlodi.
Pentwr o ddarnau punt ar bapur newydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cynhwysiant ariannol a bod mewn gormod o ddyled yn faterion y mae angen eu hystyried o ddifrif a chymryd camau ar y cyd i’w datrys.

Lansiwyd ein Strategaeth Cynhwysiant Ariannol gyntaf erioed, sef “Mae Pawb yn Cyfrif”, ym mis Gorffennaf 2009.

Nod cyffredinol y Strategaeth yw sicrhau bod asiantaethau yn cydweithio i hyrwyddo cynhwysiant ariannol mewn modd sy’n gwella’r tirlun ariannol presennol, a hynny drwy:

  • Hwyluso mynediad at wasanaethau bancio prif ffrwd a hefyd ffynonellau credyd fforddiadwy trwy fenthycwyr trydydd sector, gan gynnwys undebau credyd;
  • creu cyfleoedd cynilo sy’n hawdd manteisio arnynt; 
  • sicrhau ei bod yn hawdd cael cyngor;
  • gwella gallu ariannol; a
  • rhoi cyngor ynghylch cael y gorau o incwm a sut i reoli arian.

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod cynhwysiant ariannol o fewn cyrraedd pawb, ac mae’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol yn nodi ein bwriad i gael gwared ar unrhyw rwystrau ac i helpu’r rheini sy’n dioddef waethaf yn sgil allgáu ariannol.

Y Grŵp Cyflawni Cynhwysiant Ariannol

Sefydlwyd y Gr?p Cyflawni Cynhwysiant Ariannol ym mis Gorffennaf 2011. Rôl y Grŵp yw:

  1. cynnig cyngor arbenigol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i Lywodraeth Cymru ar y gofynion polisi pellach ac ehangach y mae eu hangen i fynd i'r afael ag allgau ariannol a gorddyledusrwydd yng Nghymru;
  2. ystyried sut mae'r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol yn cael ei chyflawni ar draws Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector, a chynghori ar hynny, gan ystyried gwaith Llywodraeth y DU, y Gwasanaeth Cynghori Ariannol a sefydliadau rhanddeiliaid eraill;
  3. nodi meysydd penodol lle y gellid gwella'r ddarpariaeth o wasanaethau trwy gydweithio a gwneud argymhellion;
  4. arwain ar weithredu a hyrwyddo meysydd penodol o'r Strategaeth; 
  5. ystyried a chymeradwyo adroddiad cynnydd blynyddol ar Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Cymru.

Y Gronfa Gymdeithasol

Mae'r Bil Diwygio Lles sydd gerbron Senedd y DU ar hyn o bryd yn diddymu'r Gronfa Gymdeithasol ddewisol ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer darparu gwasanaethau lleol newydd i ddisodli Grantiau Gofal Cymunedol a Benthyciadau Argyfwng ar gyfer treuliau byw cyffredinol.

O fis Ebrill 2013, caiff y Gronfa Gymdeithasol ei datganoli i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol yn Lloegr a Llywodraeth yr Alban. Bydd Llywodraeth Cymru yn cael swm o arian sy'n cyfateb i'r hynny a wariwyd ar y Grantiau Gofal Cymunedol a'r Benthyciadau Argyfwng yng Nghymru ar yr adeg y caiff cyfrifoldeb ei drosglwyddo.

Adolygiad o Wasanaethau Cyngor

Dechreuodd yr adolygiad o wasanaethau cyngor ar 6 Awst, a disgwylir adroddiad drafft ym mis Rhagfyr 2012. Fel rhan o gam cyntaf yr adolygiad, anfonwyd holiadur at bob awdurdod lleol a thrwy rwydweithiau darparwyr gwasanaethau cynghori er mwyn casglu gwybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir ar draws Cymru ar hyn o bryd a chael sylwadau darparwyr ar gylch gorchwyl yr adolygiad.