Skip to content

Cymunedau yn Gyntaf

Dolenni perthnasol

Canllawiau a gwybodaeth.
Mae'r cynllun hwn yn disgrifio prif amcanion ein hymrwymiad i atal tlodi, i helpu pobl i oresgyn tlodi ac i leddfu effaith tlodi.
Ymgynghoriad yn gofyn am eich barn ar y newidiadau a gynigir i raglen Cymunedau yn Gyntaf.
Logo Cymunedau yn Gyntaf

Yn dilyn adlinio ym mis Ebrill 2012, Rhaglen â Ffocws Cymunedol yw Cymunedau yn Gyntaf sy’n cefnogi agenda Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru.

Mae'r rhaglen yn adeiladu ar gyflawniadau Cymunedau yn Gyntaf ers iddi gael ei lansio yn 2001 ac yn cadw elfennau gorau'r rhaglen gyfredol.

Mae'n rhoi cymorth i bobl dan anfantais yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig â'r nod o gyfrannu at liniaru tlodi parhaus.

Bydd Timau Cyflenwi Cymunedau yn Gyntaf a gyllidir gan Lywodraeth Cymru yn gweithio gyda phreswylwyr, cyrff cymdeithasol, busnes ac asiantaethau allweddol eraill yn yr ardaloedd hyn, a elwir yn Glystyrau, gan ganolbwyntio ar gamau sy'n arwain at gynaladwyedd a lles tymor hir y cymunedau. Mae cynnwys pobl leol ym mhob agwedd o'r gwaith hwn yn elfen hanfodol o'r rhaglen.

Nod Cymunedau yn Gyntaf yw cyfrannu, ochr yn ochr â rhaglenni eraill, at leihau'r bylchau addysg/sgiliau, economaidd ac iechyd rhwng ein hardaloedd mwyaf difreintiedig a chyfoethog.

Mae tri amcan strategol gan y Rhaglen sy'n helpu i gyflawni'r canlyniadau hyn:

  • Cymunedau Ffyniannus
  • Cymunedau Dysgu
  • Cymunedau Iachach

Caiff y Rhaglen ei chefnogi gan gontractau Hyfforddi a Chynghori sydd yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd.