Skip to content

Cyfranogiad tenantiaid

Dolenni perthnasol

Amcanion i ddatblygu polisïau tai cymdeithasol ac i hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid.
Rydym am i denantiaid gael cyfle i gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau eu landlordiaid ac yn y broses o reoli eu heiddo bob dydd.
Mae Strategaeth Genedlaethol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru yn manylu ar ein polisïau i hyrwyddo a chynorthwyo â'r broses o gynnwys tenantiaid. Mae hefyd yn rhoi cyngor i denantiaid a landlordiaid cymdeithasol ynghylch sut y gallant gydweithio i reoli eu cartrefi.

Strategaeth Genedlaethol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru
Ein strategaeth ar gyfer hyrwyddo a chynorthwyo â chyfranogiad tenantiaid ym maes rheoli gwasanaethau tai. Mae'n esbonio ein polisi ni ar gyfranogiad tenantiaid a sut rydym yn disgwyl i landlordiaid cymdeithasol gyflawni hyn.

Compactau cyfranogiad tenantiaid ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru
Mae'r canllaw hwn yn egluro sut y gall awdurdodau lleol ledled Cymru sicrhau bod tenantiaid yn cymryd rhan mewn ffordd effeithiol ac ystyrlon drwy gyflwyno compactau cyfranogiad tenantiaid.

Cymryd rhan: Safonau a chymorth ar gyfer grwpiau tenantiaid a phreswylwyr
Ffederasiwn Tenantiaid Cymru, Gwasanaeth Cynghori ar Gyfranogiad Tenantiaid (TPAS) Cymru a Llywodraeth Cymru sydd wedi cynhyrchu'r daflen hon ar gyfer pobl sy'n ystyried sefydlu grŵp tenantiaid a phreswylwyr, ac ar gyfer aelodau grwpiau sydd eisoes wedi'u sefydlu. Mae wedi'i hanelu hefyd at landlordiaid.

Cynnwys Preswylwyr mewn Gwelliannau - Compendiwm Cytundeb Gweithiau Mawr
Cyngor ymarferol i helpu landlordiaid cymdeithasol i weithio gyda thenantiaid i ddatblygu Cytundebau Gwaith Mawr.