Skip to content

Ydych chi wedi dioddef trosedd casineb homoffobaidd?

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Canllaw ar ymateb asiantaethau Cyfiawnder Troseddol i droseddau casineb homoffobaidd, a'r camau y medrwch chi eu cymryd.

Trosedd casineb yw unrhyw drosedd, yn erbyn person neu eiddo, sydd wedi ei hysgogi gan gasineb y troseddwr tuag at bobl sy'n cael eu gweld fel pobl wahanol. Gall y gwahaniaeth fod o ran hil, gwreiddiau ethnig, crefydd, anabledd, rhyw, hunaniaeth rywiol neu gyfeiriadedd rhywiol.

Gall digwyddiadau a throseddau casineb gynnwys:

  • ymosodiadau corfforol;
  • bygythiad o ymosodiad;
  • sarhad neu ymosodiadau llafar;
  • graffiti;
  • post maleisus;
  • galw enwau;
  • poeri; a
  • niwed i eiddo.

Bydd y llyfryn hwn yn cynorthwy o pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol i ddeall ymateb yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i ddigwyddiadau homoffobaidd. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gefnogaeth Cymorth i Ddioddefwyr a Gwasanaethau'r Llys.