Skip to content

Tai cymdeithasol

Dolenni perthnasol

Amlygodd yr ymchwil amrywiaeth o ddulliau ac arfer da y mae landlordiaid cymdeithasol yn eu defnyddio i ddelio â digwyddiadau casineb.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth ymchwil a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2012 i gasglu a chrynhoi gwybodaeth am weithgareddau datblygu cymunedol a chefnogi cymdeithasau tai.
Yn ariannu cynlluniau tai sy'n diwallu anghenion a blaenoriaethau lleol sydd wedi cael eu pennu gan yr awdurdodau lleol.
Disgrifir yr egwyddorion, y broses reoleiddio a’i phrif nodweddion.
Cafodd Mesur Tai (Cymru) 2011 ei basio ar 22 Mawrth 2011 a'i gymeradwyo ar 10 Mai 2011. Rydym wedi cyhoeddi dogfen sy'n esbonio effeithiau'r Mesur.
Yn rhoi gwybodaeth i reolwyr tai a landlordiaid am anhwylderau ar y sbectrwm awtistig.
Tŷ

Rydym am i'n cymunedau fod yn fannau y mae pobl yn teimlo'n ddiogel yn byw ac yn gweithio ynddynt, yn awr ac yn y dyfodol.

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni adeiladu ar draddodiad byw Cymru o hunaniaeth gymunedol ac o helpu'i hun.

Credwn y dylai fod gan bawb yng Nghymru y cyfle i fyw mewn cartref o ansawdd da mewn cymuned sy’n ddiogel. Rydym yn rhoi cymorth i landlordiaid cymdeithasol ddarparu tai o’r fath o ansawdd da ac yn eu hannog i wneud hynny.

Er mwyn helpu i godi safonau mae’n ofynnol i landlordiaid cymdeithasol wella eu tai hyd at safon sy’n cael ei hystyried yn dderbyniol erbyn 2012. Mae Safon Ansawdd Tai Cymru yn rhoi cyngor i landlordiaid cymdeithasol ar sut i gyrraedd y nod hwn.