Skip to content

Tai preifat

Dolenni perthnasol

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno crynodeb o'r wybodaeth o werthusiad o grant £1.5m Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu addasiadau i gartrefi pobl hŷn yn ystod 2011-12.
Drwy wella cartrefi pobl anabl a phobl hŷn, gallant barhau i fyw gartref yn lle symud i rywle arall i gael gofal.
Yn rhoi gwybodaeth i reolwyr tai a landlordiaid am anhwylderau ar y sbectrwm awtistig.

Gwella ansawdd tai preifat a’r gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i denantiaid, perchnogion a’r rheini sydd am brynu tŷ.

Mae tua 80% o aelwydydd Cymru yn byw mewn tai sy’n eiddo preifat; naill ai fel perchen-feddianwyr neu fel tenantiaid i landlordiaid preifat. Rydym ni’n credu y dylai pob un yng Nghymru gael y cyfle i fyw mewn tai fforddiadwy, o ansawdd da. I sicrhau ein bod yn cyrraedd y nod hwnnw yn achos tai preifat, rydym yn:

  • gweithio gyda chynghorau lleol a landlordiaid i wella safon tai;
  • cefnogi cynlluniau adfywio ac adnewyddu ar gyfer eiddo preifat;
  • helpu i sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto;
  • cynorthwyo pobl hŷn a phobl anabl i addasu eu cartrefi i’w galluogi i barhau i fyw’n annibynnol ynddynt;
  • gwella hawliau tenantiaid a gwasanaethau cyfranogi.