Skip to content

Tai

Dolenni perthnasol

Mae hen orsaf heddlu yn Y Fenni wedi ei throi yn fflatiau drwy’r cynllun Troi Tai'n Gartrefi.
Mae’r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i beth o’r gwaith sy’n cael ei wneud er mwyn cyflawni ein hamcanion.
Yn ariannu cynlluniau tai sy'n diwallu anghenion a blaenoriaethau lleol sydd wedi cael eu pennu gan yr awdurdodau lleol.
Tŷ.

Mae cartref yn rhan hanfodol o fywydau pobl, mae'n effeithio ar iechyd a lles, ansawdd bywyd a'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Tai yw asgwrn cefn cymunedau, sy'n sbarduno'r galw am wasanaethau lleol, siopau a chyfleusterau. Mae llawer o wasanaethau yn targedu cartrefi pobl.

Mae buddsoddi mewn adeiladu ac adnewyddu cartrefi eisoes yn gwneud cyfraniad mawr at economïau cenedlaethol a lleol, gan greu a chynnal miloedd o swyddi a chyfleoedd hyfforddi. Mae'n chwarae rhan enfawr yn y gwaith o adfywio cymunedau, gwella eu golwg, eu gwneud yn fwy diogel a helpu pobl i deimlo'n dda ynglŷn â ble maen nhw'n byw. Mae'n dod â llawer o fanteision i bobl eu hunain, o ran eu hiechyd, eu lles ac ansawdd eu bywyd.

Mae’r Rhaglen Ddeddfwriaethol yn cynnwys Bil Tai pellgyrhaeddol. Yn yr hydref 2013, rydym yn disgwyl i’r Cynulliad Cenedlaethol ddechrau ar y gwaith o ystyried y Bil. Dyma’r cam cyntaf yn y broses o wneud deddfwriaeth.