Skip to content

Grant Rheoli Tai Cymdeithasol

Dolenni perthnasol

Cynlluniau newydd a roddir o dan Rhaglen Grant Rheoli Tai Cymdeithasol o Ebrill 2008.
Bwriad y Rhaglen Grant Rheoli Tai Cymdeithasol yw helpu landlordiaid cymdeithasol i sicrhau safonau uchel o ran rheoli tai.

Mae’r Rhaglen yn helpu prosiectau i:

  • Dreialu polisïau a chynlluniau arloesol o ran rheoli tai
  • Datblygu arfer da o ran rheoli tai; a
  • Helpu i weithredu polisïau newydd o ran rheoli tai.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn defnyddio'r rhaglen grant hon i ariannu mudliadau a phrosiectau sydd:

  • yn hwylso ac yn annog gwelliannau yn y ffordd y mae tai cymdeithasol a gwasanaethau yn cael eu darparu; a/neu 
  • yn darparu addysg a hyfforddiant o ran rheoli tai.

Nod y prosiectau cyllido drwy'r Rhaglen Grant Rheoli Tai Cymdeithasol yw sicrhau bod holl dai cymdeithasol Cymru yn cyrraedd safonau uchel o ran eu cyflwr a'r modd y maent yn cael eu rheoli.

Er mwyn cyrraedd safonau uchel o ran rheoli mae'n ofynnol derbyn cymorth parhaus i gynnal yr arloesedd y mae landlordiaid cymdeithasol Cymru wedi'i ddangos o ran rheoli eu stoc a'u camau gweithredu i adfywio cymunedau difreintiedig.

Mae cyllid prosiect y Grant Rheoli Tai Cymdeithasol yn hyrwyddo creu arferion da y gellir eu dynwared ar draws holl sector tai Cymru.