Skip to content

Beth yw cydlyniant cymunedol?

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi diffiniad ffurfiol Llywodraeth y DU o gydlyniant cymunedol a gyhoeddwyd gan yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol yn 2008.

Y diffiniad o Gydlyniant Cymunedol yw rhywbeth y mae'n rhaid iddo ddigwydd mewn pob cymuned fel y gall grwpiau gwahanol o bobl ddod ymlaen yn dda gyda'i gilydd. Mae integreiddio yn rhan bwysig o gydlyniant cymunedol. Ystyr integreiddio yw rhywbeth y mae'n rhaid iddo ddigwydd i alluogi trigolion newydd a thrigolion presennol ymaddasu i'w gilydd.

Mae ein gweledigaeth o gymuned integredig a chydlynus yn seiliedig ar dair sylfaen:

  • Pobl o wahanol gefndiroedd yn cael cyfleoedd tebyg yn eu bywydau;
  • Pobl yn gwybod eu hawliau a'u cyfrifoldebau;
  • Pobl yn ymddiried yn ei gilydd ac yn ymddiried mewn sefydliadau lleol i weithredu'n deg.

Ac ar dair ffordd allweddol o gydfyw:

  • Cydweledigaeth ar gyfer y dyfodol ac ymdeimlad o berthyn;
  • Ffocws ar yr hyn sydd gan gymunedau newydd a phresennol yn gyffredin a chydnabyddiaeth o werth amrywiaeth;
  • Perthynas gref a chadarn rhwng pobl o wahanol gefndiroedd.