Skip to content

Mudwyr

Dolenni perthnasol

Nod cyffredinol y strategaeth gynnwys yw cynorthwyo a galluogi ffoaduriaid i ailadeiladu eu bywydau yng Nghymru a chyfrannu'n llawn at gymdeithas.
Dwylo.

Er nad yw materion sy'n ymwneud â mewnfudwyr wedi cael eu datganoli, mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyfrifoldeb dros fewnfudwyr sy'n preswylio yng Nghymru o dan ei swyddogaethau ym maes iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol a thrwy ei agenda ar gydlyniant cymdeithasol.

Mae gan Gymru enw da o ran croesawu mewnfudwyr i Gymru boed hynny fel ymfudwyr economaidd neu ffoaduriaid sy'n ceisio lloches.  Rydym yn ymrwymedig i roi cyfle cyfartal i bawb sy'n byw yng Nghymru ac i sicrhau ein bod yn parchu gwerthoedd, diwylliannau, ieithoedd a ffydd ein gilydd.