Skip to content

Fframwaith Gweithredu ar Droseddau Casineb

Dolenni perthnasol

Rydym am sicrhau bod ein dull ni o lywodraethu’n cael yr effaith orau o ran gwneud ein cymdeithas yn decach ac yn fwy cynhwysol.
Mae’r Gweinidog yn Llywodraeth Cymru sydd yng ngofal cydraddoldebau wedi amlinellu camau positif i ddelio â throseddau casineb.
Heddiw, bydd Gweinidog newydd Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gyfle cyfartal yn ei gwneud hi’n glir na fydd Cymru yn goddef trosedd casineb.
Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu Fframwaith Gweithredu yn erbyn Troseddau Casineb, er mwyn sicrhau bod pobl ar hyd a lled Cymru’n gallu byw eu bywydau heb ofn a heb ddioddef unrhyw aflonyddu.

Cafodd y Fframwaith Gweithredu yn erbyn Troseddau Casineb ei gyhoeddi gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ym mis Chwefror 2012. Mae troseddau casineb yn annerbyniol. Yn sgil hyn, mae Llywodraeth Cymru yn mynd i gydweithio â phartneriaid ledled Cymru i sefydlu nifer o gamau gweithredu er mwyn lleihau nifer y troseddau casineb a chefnogi dioddefwyr.

Mae’r Fframwaith yn rhan o’r Rhaglen Lywodraethu, ac mae’n un o amcanion  Cynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru. Bydd y Fframwaith yn pennu ac yn cydgysylltu blaenoriaethau’r gweithredu ar hyd a lled Cymru yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys mynd i’r afael â throseddau casineb ar draws y nodweddion gwarchodedig ar sail:

  • Anabledd;
  • Hil;
  • Crefydd/Cred;
  • Cyfeiriadedd Rhywiol;
  • Ailbennu Rhywedd.

Bydd y Fframwaith ar gael o dymor gwanwyn 2013 ymlaen, a bydd yn canolbwyntio ar dri phrif faes, a fydd yn cynnwys:

  • Atal troseddau casineb;
  • Cynyddu cyfraddau adrodd, hyfforddi, a’r gallu i gael cymorth;
  • Gwella’r ymateb gweithredol i droseddau casineb.

Rydym am glywed eich barn

Hoffem roi cyfle cynnar i chi fynegi eich barn. Bydd hyn yn ein helpu i lunio atebion a chamau gweithredu go iawn y gallwn roi ar waith. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed hefyd am esiamplau o brosiectau sydd wedi’u cyflwyno ar hyd a lled Cymru (neu’r DU) sy’n mynd i’r afael â throseddau casineb. 

A fyddech chi cystal â rhoi rhywfaint o’ch amser (10-15 munud) i lenwi’r arolwg ar lein, gan ddefnyddio’r ddolen isod? Bydd yr arolwg hwn yn dod i ben ar 3 Medi 2012, a chaiff adroddiad a chrynodeb o’r ymatebion eu cyhoeddi yma.

Arolwg Fframwaith Gweithredu ar Droseddau Casineb

Os bydd gennych ragor o ymholiadau, neu os hoffech wybodaeth bellach, mae croeso i chi gysylltu â Blwch Negeseuon E-bost Cydlyniant Cymunedol, sef: communitycohesion@cymru.gsi.gov.uk.

Mae’r dolenni gwe allanol isod yn cynnig gwybodaeth bellach a darllen pellach am yr hyn sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd i atal troseddau casineb:

Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Ymchwiliad i aflonyddu ar sail anabledd yng Nghymru

Equality & Human Rights Commission - Hidden in plain sight Report September 2011

Home Office - Challenge it, Report it, Stop it: The Government's plan to Tackle Hate Crime March 2012

All Wales Hate Crime Research Project