Skip to content

Amdano'r pwnc hwn

Mae tai ac adfywio cymunedol yn ganolog i wella bywydau pobl Cymru, yn arbennig y rheini sy’n dod o’r cymunedau mwyaf difreintiedig. Rydym ni o’r farn y dylai pob un gael y cyfle i fyw mewn cartref o ansawdd uchel mewn cymuned ddiogel.

Cyfrifoldebau

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am bob agwedd ar bolisi tai, am ariannu tai, ac am raglenni sy’n gysylltiedig â thai. Mae’n gyfrifol hefyd am reoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a Chymdeithasau Tai. Rydym am gynnig dewis o dai fforddiadwy i bobl, a hynny yn y sector preifat a’r sector cymdeithasol. Bydd ein gwaith yn helpu i fynd i’r afael â digartrefedd; ymateb i anghenion pobl hŷn a phobl anabl; a sicrhau bod pob un yn cael y cyfle i fyw mewn cartref da.

Mae bodloni ein nodau mewn perthynas â Diogelwch Cymunedol yn dibynnu’n fawr ar gyfeiriad polisi Llywodraeth y DU ar gyfiawnder troseddol a phlismona. Rydym yn gweithio’n galed i geisio sicrhau bod polisïau Llywodraeth y DU yn y maes hwn yn cyd-fynd â rhaglen lywodraethu ein Llywodraeth ddatganoledig, a’u bod yn adlewyrchu’r gwaith ar y cyd a fydd ei angen i ddarparu gwasanaethau rheng flaen sydd wedi’u datganoli yn ogystal â’r rheini sydd heb eu datganoli.

Nodau ac amcanion

Mae ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys sicrhau bod gan bobl gartref i fyw ynddo sydd o ansawdd uchel, ac sy’n gynnes, yn ddiogel ac yn defnyddio ynni’n effeithiol.

Byddwn yn gwneud hyn yn rhannol drwy:

  • wella’r dewis o gartrefi sydd ar gael drwy sicrhau bod mwy o dir yn cael ei ryddhau ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy
  • gwella ansawdd y tai sydd ar gael drwy barhau i weithredu a monitro Safon Ansawdd Tai Cymru
  • gwella gwasanaethau a chymorth tai i wella gwasanaethau a chyfleoedd i grwpiau y gwahaniaethir yn eu herbyn 
  • lleihau lefelau trosedd ac ofn troseddau
  • lleihau’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol a chyffuriau
  • lleihau’r cyfraddau o achosion o gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod 
  • gwella diogelwch mewn cymunedau.