Skip to content

Cyfarpar cymunedol

Dolenni perthnasol

Mae cyfarwyddiadau ar gyfer datblygu ac integreiddio gwasanaethau cyfarpar cymunedol yng Nghymru wedi cael eu cynhyrchu yn dilyn ymgynghoriad yn 2008.

Mae gwasanaethau cyfarpar cymunedol yn hanfodol ar gyfer annibyniaeth nifer o bobl.

Hebddynt, byddai gofalwyr yn cael eu rhoi mewn perygl, ac ni fyddai modd darparu nifer o wasanaethau gofal hanfodol yn ddiogel.

Am sawl blwyddyn, roedd y GIG ac Adrannau Llywodraeth Leol (Addyg a Gwasanaethau Cymdeithasol) yn defnyddio eu hoffer eu hunain. O ganlyniad, mae'r dull hwn o weithio wedi bod yn anghyson ac yn peri penbleth i'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau, y gofalwyr a'r staff proffesiynol sy'n gwneud cais am yr offer.

Mae integreiddio gwasanaethau cyfarpar cymunedol yn un o'r amcanion yn strategaeth 'Cynllun Oes' ac yn y 'Fframweithiau Gwasanaeth Cenedlaethol i blant a phobl hŷn'. Er mwyn helpu i gyflawni'r amcan hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cyfalaf o £12.5 miliwn i wella'r ffordd mae'r gwasanaeth yn cael ei strwythuro. Bydd hyn yn cynorthwyo i roi gwell trefn ar y gwasanaethau er mwyn iddynt ymdopi â'r galw cynyddol yn y dyfodol. Mae llawer o'r gwaith hyd yn hyn wedi bod yn canolbwynio ar y canlynol:

  • gwneud trefniadau partneriaeth ffurfiol;
  • trefnu cyfleusterau storio a diheintio addas; a 
  • trefnu systemau TG addas i sicrhau bod yr offer yn cael ei dracio, ei wasanaethu, ei ailalw, ei ailwampio a'i ailgylchu fel sy'n addas.

Y Dull Partneriaeth

Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i integreiddio gwasanaethau cyfarpar cymunedol. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i helpu partneriaethau lleol i lwyddo gyda'r prosiect hwn. Mae'r cymorth wedi cynnwys:

  • pum gweithdy deuddydd rhanbarthol ar wasanaethau cyfarpar cymunedol integredig;
  • saith gweithdy rhanbarthol ar ddatblygu trefniadau partneriaeth ffurfiol ar gyfer gwasanaethau cyfarpar cymunedol;
  • tri gweithdy rhanbarthol ar y fframwaith aseswr gwybodus;
  • cynhadledd ar integreiddio gwasanaethau cyfarpar cymunedol;
  • cyflwyniad yng Nghynhadledd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau; Cymdeithasol (gwasanaethau i bobl sydd ac anabledd corfforol neu nam ar y synhwyrau); a
  • ers mis Gorffennaf 2006, cyfarfodydd misol gyda Chydgysylltwyr Gwasanaethau Cyfarpar Cymunedol lleol. Cafwyd rhagor o gyflwyniadau yn y gweithdai hyn.

Trefnwyd yr holl weithdai hyn fel bod modd cael cynrychiolaeth eang gan barteriaethau lleol ac roedd y gweithdai yn rhad ac am ddim.

Cyflwynwyd cyfarwyddiadau drafft ar gyfer datblygu ac integreiddio gwasanaethau cyfarpar cymunedol yng Nghymru ar gyfer ymgynghoriad ym mis Ionawr 2008.

I gael rhagor o wybodaeth am integreiddio gwasanaethau cyfarpar cymunedol ewch i wefan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.