Skip to content

Anabledd

Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r cymorth sydd ar gael i bobl anabl.

Mae tri sefydliad wrthi’n rhedeg y system fudd-daliadau o ddydd i ddydd: 

  • Canolfan Byd Gwaith;
  • Gwasanaeth Pensiwn Anabledd a Gofalwyr; a
  • Rheoli Dyledion.

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi sy’n gweinyddu credydau treth, budd-dal plant a lwfans gwarcheidwad.

Mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am feysydd megis y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gofal cymdeithasol, addysg, trafnidiaeth a thai. Mae dyletswydd statudol ar Lywodraeth y Cynulliad i sicrhau fod cyfleoedd cyfartal yn rhan ganolog o’i gwaith ac mae hi wedi ymrwymo i greu cymdeithas sy’n hygyrch i bawb. 

Oedolion ag Anableddau Dysgu

Rydym yn gweithredu o blaid oedolion sydd ag anableddau dysgu ar sail y weledigaeth fod pob un sydd ag anabledd dysgu yn ddinesydd cyflawn, a bod ganddynt statws a gwerth sy’n gydradd â dinasyddion eraill yr un oed â nhw. Mae’r un hawliau ganddynt i fyw bywydau iach a chynhyrchiol a derbyn triniaeth a chefnogaeth sy’n briodol ac sy’n ymateb i’w hanghenion. 

Oedolion ag Anableddau Corfforol ac Anableddau’r Synhwyrau

Er mwyn Oedolion sydd ag Anableddau Corfforol ac Anableddau’r Synhwyrau rydym yn datblygu polisïau fframwaith cenedlaethol a fydd yn darparu gwasanaethau sy’n hyblyg, teg a di-dor, ac sydd ar gael pryd mae eu hangen nhw.  Mae’r gwasanaethau yma wedi’u cynllunio fel eu bod nhw’n cwrdd ag anghenion pobl anabl, yn gwella ansawdd eu byw nhw ac yn eu helpu i fyw’n annibynnol yn y gymuned.