Skip to content

Taliadau uniongyrchol

Dolenni perthnasol

Manylion taliadau a wneir gan awdurdodau lleol i unigolion ar gyfer anghenion gofal cymunedol.

Mae awdurdodau lleol yn talu unigolion yn uniongyrchol fel eu bod yn gallu talu am eu gofal eu hunain.

Mae hyn yn galluogi unigolion i brynu’r cymorth neu’r gwasanaethau y byddai’r awdurdod lleol wedi’u darparu fel arall. Mae taliadau uniongyrchol yn cynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol trwy alluogi unigolion i wneud penderfyniadau dros eu hunain ac i reoli eu bywydau eu hunain.

Mae taliadau uniongyrchol wedi’u hymestyn yn raddol i gynnwys:

  • pobl hŷn;
  • gofalwyr;
  • rhieni plant anabl; 
  • oedolion anabl.  

Er 11 Ebrill 2011, mae cwmpas y cynllun taliadau uniongyrchol wedi’i ymestyn i gynnwys pobl nad oes ganddynt y gallu i roi eu caniatâd. Mae pobl a oedd, yn y gorffennol, yn cael eu heithrio o’r cynllun am eu bod yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth yn ymwneud â phroblemau iechyd meddwl neu gyfiawnder troseddol, hefyd wedi’u cynnwys. Bellach, bydd pobl heb y gallu hwnnw yn gallu cael taliadau uniongyrchol drwy gyfrwng 'person addas' a fydd yn derbyn taliadau ar eu rhan.  

Canllawiau ar daliadau uniongyrchol 

Ym mis Ebrill 2011, cyhoeddwyd canllawiau statudol diwygiedig i awdurdodau lleol ar sut i sefydlu a rheoli’r cynllun taliadau uniongyrchol. Cafodd canllawiau ychwanegol eu cyhoeddi hefyd i awdurdodau lleol ynghylch penodi ‘person addas’.  

Mae Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011 yn disodli’r rheoliadau yn ymwneud â thaliadau uniongyrchol a wnaed yn 2004 a 2006, ac mae’r canllawiau diwygiedig yn disodli’r canllawiau a gyhoeddwyd yn 2004.    

Rheoliadau

Gellir cael gafael ar y rheoliadau trwy ddilyn y dolenni allanol canlynol:

Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011 (Saesneg yn unig)

Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011 (Saesneg yn unig)