Skip to content

Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Strategaeth ar gyfer gwasanaethau cymedithasol yng Nghymru dros y degawd nesaf

Y strategaeth 10 mlynedd, Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol, yw sylfaen gwaith Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad.

Prif gynulleidfa darged y strategaeth yw awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio strategol, am drefnu bod gwasanaethau yn cael eu darparu i fodloni anghenion, am gynnal asesiadau a rheoli gofal ar gyfer y sawl sydd angen help a chymorth, ac am amddiffyn oedolion a phlant sy'n agored i niwed.

Y weledigaeth yw gwasanaethau cymdeithasol sy'n gadarn, hygyrch, ac atebol, sy'n gwerthfawrogi beth yw anghenion dinasyddion a chymunedau, ac sy'n hyrwyddo annibyniaeth, cynhwysiant cymdeithasol, hawliau dinasyddion a chanlyniadau cadarnhaol. Bydd y weledigaeth hon yn cael ei chyflawni mewn ffordd hyblyg ac effeithlon, ar y cyd â gwasanaethau eraill y llywodraeth, y gwasanaeth iechyd, sefydliadau preifat a gwirfoddol, defnyddwyr y gwasanaeth a'r gofalwyr, a hynny i safon sy'n gyson uchel ledled Cymru.