Skip to content

Law yn Llaw at Iechyd: Cynllun cyflawni ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Byddwn yn anelu i wneud gwelliannau sylweddol yn y ffordd y gallwch gael mynediad i wybodaeth iechyd dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

Mae ein gweledigaeth yn syml ac mae iddi nod clir, sef y bydd yn llawer haws i chi:

  • dod o hyd i ragor o wybodaeth ddiweddar, ddibynadwy;
  • ei deall yn gyflym drwy ei gweld wedi’i chyflwyno mewn modd haws ei defnyddio.

Dylai’r wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru a’r GIG yn ei darparu gael ei chyflwyno’n ofalus er mwyn eich helpu i wneud penderfyniadau sy’n bwysig i chi, a’ch helpu i ddeall beth sy’n digwydd o ran eich iechyd chi ac o ran gofal iechyd yn gyffredinol.

Rydym hefyd eisiau gwneud gwell defnydd o dechnolegau sydd ar gael yn barod, ynghyd â thechnolegau newydd. Gall dyfeisiau symudol alluogi pobl i gael gafael ar wybodaeth ble bynnag y bônt, ac i gyfathrebu mewn ffyrdd haws a mwy arloesol.

Rydym wedi nodi rhai cwestiynau pwysig lle gall yr wybodaeth gywir fod o werth ymarferol gwirioneddol. Byddwn yn ymdrechu i wneud gwelliannau sylweddol i’r modd y gallwch gael gafael ar wybodaeth dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.