Skip to content

Gweledigaeth Strategol ar gyfer y Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae’r strategaeth hon yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer GIG Cymru mewn perthynas â chyflenwi gwasanaethau mamolaeth diogel, cynaliadwy ac uchel eu hansawdd.

Ein nod yw creu gwasanaeth sy’n hyrwyddo beichiogrwydd a genedigaeth fel digwyddiad o bwys cymdeithasol ac emosiynol, lle caiff menywod a theuluoedd eu trin ag urddas a pharch.

I bob mam, lle bynnag y mae'n byw a beth bynnag fo'i hamgylchiadau, bydd beichiogrwydd a genedigaeth yn brofiad diogel a chadarnhaol.

Bydd hyn yn caniatáu i’r fam newydd, ei phartner a’i theulu ddechrau rhianta, gan deimlo:

  • yn hyderus, 
  • yn alluog,   
  • eu bod yn cael eu cefnogi i roi dechrau sefydlog mewn bywyd i’w plentyn.