Skip to content

Daw Rheoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011

Dolenni perthnasol

Ym mis Ebrill 2011, daeth gwaharddiad i rym yng Nghymru a Lloegr sy’n atal busnesau rhag caniatáu i bobl o dan 18 oed ddefnyddio gwelyau haul ar eu safleoedd.
Gwybodaeth iechyd i gydymffurfio â Rheoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011.
Mae hyfforddiant proffesiynol ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru helpu i gyflwyno a gorfodi'r Ddeddf.
Daw Rheoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011 i rym ddydd Llun 31 Hydref 2011, gan gyflwyno rhagor o reoliadau ynghylch defnyddio gwelyau haul yng Nghymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Daw Rheoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011 i rym ar 31 Hydref 2011.

Maent yn darparu rheolaethau pellach, gan ei gwneud yn drosedd i safleoedd gwelyau haul fod ar agor heb oruchwyliaeth a gwerthu neu logi gwelyau haul i unrhyw un o dan 18 oed.

O dan y rheoliadau:

  • rhaid i bob busnes gwelyau haul oruchwylio’r defnydd o’i welyau haul;
  • ni cheir gwerthu neu logi gwelyau haul i bobl o dan 18 oed;
  • bydd busnesau sy’n gweithredu o safleoedd domestig yn cael eu cynnwys yn y gofyniad na ddylid defnyddio gwelyau haul nac ychwaith eu cynnig i bobl o dan 18 oed ar y safleoedd hynny;
  • rhagnodir yr wybodaeth y mae’n rhaid ei harddangos a’i rhoi i oedolion a allai fod â diddordeb mewn defnyddio gwely haul;
  • ni cheir darparu nac arddangos unrhyw ddeunydd sy’n ymwneud ag effeithiau iechyd sy’n deillio o ddefnyddio gwelyau haul, ar wahân i’r deunydd sy’n cynnwys yr wybodaeth am iechyd sydd wedi’i rhagnodi;
  • rhaid i orchudd amddiffynnol a phriodol dros y llygaid gael ei ddarparu i oedolion a’i wisgo ganddynt.

Mae taflen yn cael ei dosbarthu i fusnesau gwelyau haul yng Nghymru i baratoi’r busnesau hyn ar gyfer y gyfraith newydd.

Rheoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011 (dolen allanol, Saesneg yn unig)