Skip to content

Cyngor ar gyfer tywydd poeth eithriadol i bobl broffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Dolenni perthnasol

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn mwynhau’r tywydd braf, ond mae gwres llethol yn gallu peryglu’ch iechyd chi.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae dwy daflen ffeithiau ar gael am dywydd poeth eithriadol i bobl broffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r rhain yn cynnig canllawiau manwl ynghylch:

  • pa grwpiau sydd fwyaf agored i risgl;
  • sut mae cynllunio ymlaen llaw i ofalu am bobl os bydd y tywydd yn eithriadol o boeth;
  • camau i'w cymryd yn ystod tywydd poeth; a
  • meddyginiaeth a all sbarduno neu gynyddu difrifoldeb trawiad gwres.

Dylech ddarllen "Gofalu am Gleifion Cyn ac yn Ystod Tywydd Poeth - Cyngor i reolwyr a staff cartrefi gofal" os ydych chi'n gweithio mewn cartref preswyl neu gartref nyrsio neu'n rheoli cartref o'r fath. Fe'ch cynghorir yn gryf i baratoi'n unol â'r awgrymiadau cyn cael rhybudd am dywydd poeth iawn.

Dylech fod yn darllen "Gofalu am Gleifion Cyn ac yn Ystod Tywydd Poeth - Cyngor i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol" os ydych chi'n gweithio yn y gwasanaethau gofal sylfaenol neu wasanaethau cymdeithasol neu os ydych chi'n darparu gofal cartref. Mae'n cynnig cyngor ynghylch gofalu am y bobl sydd fwyaf agored-i-risg yn ystod tywydd poeth iawn ac am drefnu pobl eraill sy'n darparu gofal.

Mae'r daflenni wybodaeth hon wedi ei diweddaru gyda’r wybodaeth ddiweddaraf o werthusiad a gynhaliwyd yn Lloegr o gyfnodau o dywydd poeth yn y gorffennol ac astudiaeth EuroHEAT Sefydliad Iechyd y Byd. Mae'n rhan o raglen genedlaethol i leihau’r peryglon i iechyd trwy gynghori pobl beth i’w wneud mewn tywydd poeth, cyn iddo ddigwydd.