Skip to content

Carbon monocsid

Dolenni perthnasol

Mae llawer o bobl yn marw o hyd oherwydd achosion damweiniol o wenwyno carbon monocsid acíwt.
Er gwaetha ymgyrchoedd gwybodaeth, mae rhwng 10 ac 20 o bobl ym Mhrydain yn cael eu gwenwyno a’u lladd yn ddamweiniol gan garbon monocsid yn eu cartrefi bob blwyddyn.
Silindr nwy
Mae carbon monocsid yn y cartref yn gyfrifol am nifer sylweddol o farwolaethau bob blwyddyn ac am lawer mwy o achosion o wenwyno nad ydynt yn farwol.

Mae'n debygol bod llawer mwy o bobl yn dod i gysylltiad â’r nwy ac yn dioddef ei effaith heb fod yn ymwybodol o achos eu hanhwylder. Ond mae modd atal y marwolaethau a’r damweiniau hyn: drwy godi gwell ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd a gwell gwyliadwriaeth ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol o ran arwyddion a symptomau yn eu cleifion.

Cefndir

Nwy diarogl, di-liw yw carbon monocsid sy’n lladd llawer o bobl bob blwyddyn ond sydd hefyd yn achosi mwy fyth o anafiadau difrifol. Mae bron yn sicr nad yw'r holl achosion o wenwyno carbon monocsid sy'n digwydd yn cael eu cofnodi ac mae’n bosibl bod nifer fawr o bobl yn dod i gysylltiad â'r nwy ac yn dioddef effeithiau hynny.

Ffynonellau carbon monocsid

Cynhyrchir carbon monocsid drwy hylosgiad anghyflawn tanwydd sy’n cynnwys carbon. Dyma rai ffynonellau:

  • nwy (domestig neu botel);
  • glo;
  • golosg;
  • olew; 
  • coed; 
  • ffyrnau nwy;
  • tanau a boeleri;
  • gwresogyddion dŵr wedi’u tanio â nwy;
  • gwresogyddion paraffîn;
  • stofau tanwydd solet;
  • boeleri;
  • gwresogyddion ystafelloedd.

Prif achosion gwenwyno yw cynnal a chadw annigonol sy’n arwain at hylosgiad tanwydd o safon wael a phroses annigonol i gael gwared â chynnyrch gwastraff yn sgil ffliwiau a simneiau sydd wedi'u blocio’n llwyr neu’n rhannol. Gall diffygion o’r fath ddigwydd ym mhob math o eiddo ac mae’r syniad bod gwenwyno carbon monocsid wedi’i gyfyngu i gartrefi tlotach a llety myfyrwyr yn gyfeiliornus. Ambell waith ceir damweiniau mewn tai sydd newydd eu meddiannu ac sydd â systemau gwres canolog nwy.

Gall carbon monocsid dreiddio i mewn i adeiladau drwy ffliwiau a simneiau a rennir, ac mae’n bosibl i bobl gael eu gwenwyno gan garbon monocsid a gynhyrchir drws nesaf. Gall camgymeriadau anghyffredin, megis gosod awyrell tân nwy mewn wal geudod, arwain at wenwyno’r bobl sy’n byw uwchben y rhai sy’n defnyddio’r tân. Gall garej sydd ynghlwm ag adeilad fod yn ffynhonnell carbon monocsid os yw injan car yn cael ei rhedeg heb awyru digonol.

Dolenni cysylltiedig allanol

Yr Asiantaeth Diogelu Iechyd - Gwybodaeth gyffredinol am Garbon monocsid (Saesneg yn unig)

Yr Asiantaeth Diogelu Iechyd - Ymwybyddiaeth am Garbon monocsid (Saesneg yn unig)

The Gas Safety Trust (Saesneg yn unig)

Galw Iechyd Cymru - Gwenwyno gan garbon monocsid (Saesneg yn unig)