Ffliw moch
Gallwch hefyd ddarllen yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r sefyllfa yng Nghymru ar y tudalennau hyn, yn cynnwys diweddariadau wythnosol.
Mae mwyafrif yr achosion o ffliw moch yng Nghymru wedi bod yn ysgafn ond i nifer fach iawn o bobl y mae wedi bod yn ddifrifol.
Rhagor o wybodaeth
Os oes symptomau tebyg i ffliw arnoch chi neu arnyn nhw, dylech chi/dylen nhw aros gartref.
Gallwch ymgynghori ynghylch y symptomau drwy ffonio’r llinell wybodaeth am ffliw moch ar 0800 1 513 513 neu drwy fynd i wefan Galw Iechyd Cymru(dolen allanol).
Mae ffliw yn salwch annymunol ond bydd y rhan fwyaf o bobl iach, gan gynnwys plant, yn gwella ar ôl rhai dyddiau os dilynant y camau hyn:
- Aros gartref a gorffwys
- Yfed digon
- Cymryd meddyginiaeth fel parasetamol i reoli gwres a phoen
Peidiwch â mynd i’ch meddygfa, eich uned Damweiniau ac Achosion Brys, na safle gofal iechyd arall gan y gallech drosglwyddo’r haint i bobl eraill sydd fwyaf tebygol o ddatblygu cymhlethdodau os cânt y feirws.
Os ydych yn poeni – efallai fod eich symptomau yn ddifrifol neu’n parhau i waethygu – neu os ydych yn perthyn i grˆwp risg uchel, yna dylech ffonio eich meddyg teulu i gael mwy o gyngor ac, os oes angen, driniaeth wrthfeirysol.
I gael cyngor cyffredinol, gallwch hefyd gysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.
Mae’r newyddion diweddaraf, yn ogystal â mwy o gefndir a chyngor am yr achos o ffliw moch, ar gael ar wefan Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru (dolen allanol).
