Skip to content

Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol (IHR) 2005

Cod penodol o arferion a gweithdrefnau yw'r Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol y bwriedir iddynt atal clefydau heintus rhag lledu ar lefel ryngwladol.

Maent yn offeryn cyfreithiol rhwymedigol sy'n pennu mesurau ar gyfer Sefydliad Iechyd y Byd a'i aelod-wladwriaethau ynghylch atal clefydau heintus mewn pobl rhag croesi o un wlad i'r llall.

Diben a chwmpas y Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol yw atal, rheoli, ymateb er budd iechyd y cyhoedd a diogelu rhag lledaeniad rhyngwladol clefyd.

Caiff hyn ei wneud mewn modd sy'n cyd-fynd â risgiau iechyd y cyhoedd ac sy'n gyfyngedig iddynt, ac sy'n osgoi ymyrraeth ddiangen â thraffig a masnach ryngwladol.

Gan fod y DU yn aelod o Sefydliad Iechyd y Byd mae'n rhwymedig wth Reoliadau Iechyd Rhyngwladol 2005. Daeth Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol 2005 i rym yn gyffredinol ar 15 Mehefin 2007 a gwnaethant ddisodli Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol blaenorol 1969.

Mae cwmpas llawer ehangach i Reoliadau Iechyd Rhyngwladol 2005 nag oedd i Reoliadau Iechyd Rhyngwladol 1969, sy'n golygu eu bod yn berthnasol i unrhyw glefyd (gan gynnwys y rhai o achosion newydd neu anhysbys), beth bynnag y bo eu tarddiad neu eu ffynhonnell, a allai atal niwed sylweddol i bobl. Maent yn ymdrin â'r gwendidau y sylwyd arnynt yn y degawdau diwethaf o ran canfod achosion o glefyd ac ymateb iddynt.  

Ceir rhagor o wybodaeth am Reoliadau Iechyd Rhyngwladol 2005 ar wefan Sefydliad Iechyd y Byd (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Mae'r DU yn rhwymedig wrth Reoliadau Iechyd Rhyngwladol 2005 gan ei bod yn un o aelod-wladwriaethau Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru am weithredu'r rhannau hynny o'r Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol sy'n ymdrin â materion sydd wedi'u datganoli i Gymru. Golyga'r diffyg trefniadau rheoli ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr ein bod yn cydweithio'n agos â'r Adran Iechyd er mwyn rhoi'r Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol ar waith mewn modd synhwyrol a chydlynus.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Health.Protection@Wales.gsi.gov.uk