Skip to content

Afiechyd fasgwlaidd

Dolenni perthnasol

Gellir priodoli dros 11,000 o farwolaethau’r flwyddyn i afiechydon sy’n ymwneud â chylchrediad y gwaed.

Felly, ceir llawer iawn o afiechyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru.

Yn dilyn argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, sefydlwyd Grŵp Prosiect Fasgwlaidd amlddisgyblaethol. Ei ddiben yw cynghori ynghylch ffyrdd y gall Cymru gryfhau’r modd y mae ar hyn o bryd yn rheoli pobl sy’n dioddef o afiechyd fasgwlaidd neu sydd mewn perygl o ddioddef o afiechyd o’r fath.
 
Mae’r Grŵp Prosiect Fasgwlaidd yn argymell mai’r hyn y dylid ei wneud gyntaf yw cynnal adolygiad manwl o’r ddarpariaeth o ran gofal a chymorth sy’n berthnasol i waith atal afiechyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru. Byddai hynny’n cynnwys adolygu systemau cyfredol ar draws gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd yn strwythurau’r GIG, ac adnabod y mannau lle ceir cyfleoedd i leihau achosion o ddyblygu gwaith.

Mae’n argymell y dylid defnyddio’r adolygiad hwn o wasanaethau wedyn i lywio’r broses o ddatblygu cynllun gweithredu.