Skip to content

Gwasanaethau cardiaidd

Dolenni perthnasol

Rhoi sylfaen ar gyfer cynllunio a datblygu gwasanaethau ar gyfer atal a thrin clefyd y galon.

Mae clefyd coronaidd y galon yn un o brif achosion marwolaeth yn y Deyrnas Unedig, ac yn enwedig yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau cardiaidd yng Nghymru fel y nodir yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Clefyd Coronaidd y Galon (2001). Prif nod y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yw gwella cyflymder cael diagnosis, gofal a thriniaeth i bawb ledled Cymru y mae arnynt angen gofal cardiaidd.  

Mae’r Fframwaith hwn bellach wedi’i ddiweddaru a’i ddisodli gan y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Clefyd y Galon, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2009. Mae’r fframwaith newydd yn cynnwys safon ar wahân ar achosion o afreoleidd-dra, marwolaeth sydyn oherwydd problemau â’r galon, a gofal i oedolion sydd ag anhwylder cynhenid ar y galon.

Disgwylir i sefydliadau gael cynllun lleol sy’n dangos sut y byddant yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau cardiaidd effeithiol. Yn ogystal, bydd angen i’r cynllun ddangos yn glir sut y mae’r sefydliad yn disgwyl sicrhau’r gwelliannau angenrheidiol o fewn yr amserlen a’r adnoddau ariannol sydd ar gael.

Cynnydd hyd yma

I helpu i fodloni gofynion y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol, mae tri o rwydweithiau’r galon wedi’u sefydlu i gwmpasu:

  • Gogledd Cymru;
  • Canolbarth a De-orllewin Cymru; a
  • De-ddwyrain Cymru.

Mae’r rhwydweithiau hyn yn cynnwys y sefydliadau sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cardiaidd neu sydd â diddordeb uniongyrchol mewn darparu gwasanaethau o’r fath. Maent yn canolbwyntio ar daith y claf o’r adeg y caiff ei gyfeirio gan y meddyg teulu i’r adeg y caiff driniaeth briodol, ac maent yn canolbwyntio ar rannu arfer gorau ar draws ardaloedd y tri rhwydwaith.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi penodi arweinydd clinigol ar gyfer gwasanaethau cardiaidd i ddarparu cyngor a chanllawiau clinigol ynghylch datblygu gwasanaethau cardiaidd yn strategol. Mae Grŵp Cydlynu Rhwydweithiau’r Galon yn sicrhau bod clinigwyr a phobl eraill yn y GIG yn cael eu dwyn ynghyd ar lefel Cymru gyfan i gynorthwyo a chynghori Llywodraeth y Cynulliad a’r rhwydweithiau.

Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud eisoes o safbwynt gweithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Clefyd y Galon ledled Cymru. Mae amseroedd aros ar gyfer cael diagnosis a thriniaeth i glefyd y galon wedi lleihau’n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Yn sgil mentrau eraill:

  • datblygwyd cofnod a gedwir gan y claf;
  • sefydlwyd clinigau i rai sydd wedi dioddef methiant y galon, gwnaed gwelliannau i unedau gofal coronaidd;
  • ehangwyd gwasanaethau er mwyn cyflawni triniaethau diagnostig; a
  • rhoddwyd diffibrilwyr y gall y cyhoedd gael mynediad iddynt mewn safleoedd strategol ledled Cymru.

Ewch i Grŵp Cydlynu Rhwydweithiau’r Galon (dolen allanol)