Skip to content

Gwybodaeth am GIG Cymru

Dolenni perthnasol

Mae llinell gymorth Galw Iechyd - 0845 46 47 – ar gael 24 awr y dydd i bawb yng Nghymru sydd o fewn cyrraedd ffôn.
Mae darparu gwasanaethau iechyd yng Nghymru sy'n addas i'w pwrpas yn dasg enfawr.

Daw cleifion yng Nghymru i gysylltiad â’r GIG tua 20 miliwn o weithiau bob blwyddyn, ac mae 80% o’r cysylltiadau’n digwydd mewn man heblaw ysbyty.

Gwybodaeth am GIG Cymru

Daw cleifion yng Nghymru i gysylltiad â GIG Cymru fwy na 20 miliwn o weithiau bob blwyddyn, ac mae 80% o’r cysylltiadau’n digwydd mewn man heblaw ysbyty fel meddygfa neu drwy wasanaeth iechyd cymunedol.

Bob blwyddyn, mae GIG Cymru hefyd yn ymgymryd â mwy na 700,000 o apwyntiadau cyntaf cleifion allanol ac yn trin mwy na 600,000 o gleifion mewnol ac achosion dydd, a chaiff mwy na 1 miliwn o bobl eu gweld mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.

Gweithlu

Caiff mwy na 70,000 eu cyflogi'n uniongyrchol gan GIG Cymru – y gwasanaeth iechyd felly yw cyflogwr mwyaf Cymru. Mae'r gwasanaeth iechyd yn cynnig dros 200 o yrfaoedd gan gynnwys fferyllwyr, parafeddygon, gynecolegwyr, peirianwyr clinigol, radiograffyddion a bydwragedd.

Cyllid

Mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi £6 biliwn y flwyddyn, neu 40 y cant o'i chyllideb - y gyllideb unigol fwyaf - mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Caiff y rhan fwyaf o'r arian hwn ei ddyrannu i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau.

Gwefan GIG Cymru - Iechyd yng Nghymru

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Iechyd yng Nghymru , sy’n borth i wybodaeth am iechyd a gwasanaethau GIG yng Nghymru.