Skip to content

Persbectif strategol

Mae'r Safon Iechyd Gorfforaethol yn rhoi cyfle i sefydliadau a mudiadau ymateb i Her Iechyd Cymru.

Yng Nghymru: Gwella Iechyd

Her Iechyd Cymru yw canolbwynt cenedlaethol yr ymdrechion i wella iechyd a lles trwy annog pobl i dderbyn cyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain. Os ydym am greu cenedl iachach, mae'n cydnabod bod rhaid rhoi ystyriaeth i ffactorau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Bydd unigolion sydd wedi'u cyflogi gan fusnesau a sefydliadau sydd wedi ymrwymo i egwyddorion y Safon Iechyd Gorfforaethol yn meddu ar y wybodaeth a'r amgylchiadau angenrheidiol a fydd yn eu galluogi i wella'u hiechyd eu hunain.

Mae 'Cynllun Oes' yn amlinellu gweledigaeth ddiffiniedig y bydd: 'Cymru, erbyn 2015, trwy ymdrechion Llywodraeth Cymru, y GIG, awdurdodau lleol a'u partneriaid, y gymuned ac unigolion, wedi lleihau marwolaethau y gellir eu hatal, poen, oedi, diymadferthedd a gwastraff.' Mae'r athroniaeth yn awgrymu bod pob cyfrwng posibl yn cael ei ddefnyddio i hybu cymunedau iach a bod unigolion yn cael eu grymuso i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain.

Mae pob un o Ymddiriedolaethau'r GIG ac awdurdodau lleol wedi eu herio i gyrraedd safon gwobr aur/platinwm erbyn 2008.