Skip to content

Ysmygu

Dolenni perthnasol

Rydym yn awyddus i gasglu eich safbwyntiau ynghylch sut y gallai deddfwriaeth helpu i wella iechyd cyffredinol Cymru ymhellach.
Mae gwaharddiad Llywodraeth wedi’i gymeradwyo a bydd yn dod i rym ar 3 Rhagfyr 2012.
I helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu.
Sigaret mewn blwch llwch

Ysmygu yw achos ataliadwy mwyaf gwaeledd, anabledd a marwolaeth yng Nghymru

Mae’n achosi dros 5,600 o farwolaethau bob blwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn mesurau i atal plant rhag dechrau smygu a hefyd rydym yn helpu smygwyr sydd am roi’r gorau iddo.

Cychwyn iach Cymru - Rhowch y gorau i smygu yn eich car

Yn anelu at amddiffyn plant yn erbyn mwg ail-law mewn ceir.

Mae’r ymgyrch yn galw ar rieni, ac unrhyw un arall sy’n gwarchod plant, i addo cadw eu ceir yn ddi-fwg.  

Yn ystod y cam hysbysebu cyntaf byddwn yn defnyddio radio lleol, hysbysfyrddau, cefn bysiau, cabanau aros bysiau a gwefan arbennig.

Plant yn dod i gysylltiad â mwg ail law

Mae anadlu mwg ail law yn beryglus i blant, yn enwedig pan fydd hyn yn digwydd mewn cerbydau. Mae’r gofod caeëdig yn golygu nad oes modd dianc rhag cemegau gwenwynig y sigaréts.

Bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ymgyrch ym mis 2012 i atal smygu mewn ceir pan mae plentyn yn bresennol.

Gwahardd gwerthu tybaco o beiriannau yng Nghymru

Dim ond un y cant o’r tybaco a werthir yn y DU sy’n cael ei werthu o beiriannau. Serch hynny, mae nifer mawr o bobl ifanc dan 18 oed yn prynu eu sigaréts o’r peiriannau hyn. Mae 10% o smygwyr rheolaidd 11 – 15 oed yn dweud mai peiriannau gwerthu sigaréts yw eu prif ffynhonnell o dybaco.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwahardd gwerthu tybaco o beiriannau o 1 Chwefror 2012.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi nifer o wasanaethau sy’n helpu pobl i roi’r gorau i smygu, fel Dim Smygu Cymru (wefan) ar 0800 085 2219 neu’r Llinell Gymorth i Smygwyr yng Nghymru ar 0800 169 0 169.