Skip to content

Gwella iechyd a lles rhywiol pobl yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Bydd y Cynllun Gweithredu hwn yn creu sylfaen eang a dull integredig sy’n delio â hyrwyddo iechyd a lles rhywiol a darparu gwasanaethau iechyd rhywiol.
Dau berson law yn llaw

Gwella iechyd rhywiol pobl yng Nghymru

Beichiogi yn yr arddegau

Un o gamau allweddol Cynllun Gweithredu Iechyd a Lles Rhywiol ar gyfer Cymru, 2010-2015, yw lleihau'r cyfraddau beichiogi ymysg merched yn eu harddegau.  Byddwn yn cydweithio â'r Byrddau Iechyd Lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac â Phartneriaethau Plant a Phobl ifanc.

Prosiect grymuso i ddewis

Cychwynnodd y prosiect hwn ar 2 Ebrill 2012, ac mae dwy elfen iddo. Elfen gyntaf y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o ddulliau atal cenhedlu gwrthdroadwy hirdymor (LARC). Mae'r ail elfen yn cynnwys archwilio'r cyngor ar ddulliau atal cenhedlu a roddir i ferched beichiog yn eu harddegau.

Mae merched ifanc sy'n beichiogi yn eu harddegau mewn mwy o berygl o feichiogi eto yn ystod eu harddegau.   Drwy annog dulliau atal cenhedlu gwrthdroadwy hirdymor (LARC), mae'n bosibl y gallwn leihau cyfraddau beichiogi. Am ragor o wybodaeth ar brosiect Grymuso i Ddewis, ewch i

Cynlluniau Cerdyn C

Gall pobl ifanc sy'n iau na 25 oed gael cyngor iechyd rhywiol cyfrinachol am ddim a chondomau am ddim drwy'r Cynlluniau Cerdyn Condom (Cerdyn C) ledled Cymru. Mae’r cynlluniau hyn yn gweithredu’n bennaf o ganolfannau ieuenctid a sefydliadau gwirfoddol.  

Am ragor o wybodaeth ar gynlluniau yn eich ardal, ewch i'r wefan (dolen allanol)

Codi ymwybyddiaeth o HIV

Er bod y niferoedd yn fach, mae cynnydd o 10% bob blwyddyn yn nifer y bobl sy'n byw gyda HIV yng Nghymru. Mae dros 100 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn yng Nghymru.

Gall unrhyw un gael HIV os ydynt yn cael rhyw, does dim gwahaniaeth a ydych yn strêt (heterorywiol), yn hoyw, nac o ble yr ydych yn dod. Er bod HIV yn fwy cyffredin ymysg dynion sy’n cael rhyw gyda dynion, dynion deurywiol, ac mewn cymunedau Affricanaidd, mae mwy o bobl bellach yn cael eu heintio y tu allan i’r grwpiau hyn. Mae HIV yn fater i bawb.

Cafodd ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o HIV ei lansio ar 26 Tachwedd 2012, er mwyn cyd-daro â Diwrnod AIDS y Byd, ar 1 Rhagfyr 2012.

Mae nifer o ymgyrchoedd wedi'u sefydlu yn y DU sy'n targedu grwpiau penodol yn y boblogaeth, yn enwedig dynion hoyw, a'r rhai hynny o dras Affricanaidd. Bwriad yr ymgyrch hon yw codi ymwybyddiaeth ymysg pawb, gyda'r nod o annog y rhai hynny nad ydynt yn y grwpiau risg a nodwyd uchod i gael prawf HIV.

Cynhelir yr ymgyrch hyd at 1 Rhagfyr 2013. Fel rhan o'r ymgyrch ceir posteri mewn ystod eang o leoliadau ar hyd a lled Cymru. Caiff pawb ei annog i fynd i wefan Cymru Chwareus (dolen allanol)