Skip to content

Bwydo ar y Fron

Dolenni perthnasol

Cyngor ar gymryd tabledi fitamin D pan fyddwch yn feichiog neu’n bwydo ar y fron, a fitaminau i blant ifanc a’r blynyddoedd cynnar.

Y dechrau gorau ar gyfer eich babi.

Dechrau am Oes

Dyw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau gwneud yn siŵr bod eich babi'n cael dyfodol iach a hapus. Ewch i dudalen 'Dechrau am Oes'  am wybodaeth a chyngor defnyddiol ar fwydo a chael y bychan i symud – a phopeth yn y canol.

Dechrau am Oes (dolen allanol, Saesneg yn unig) 

Ein nod yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r manteision iechyd y mae bwydo ar y fron yn eu rhoi i fabanod, fel mwy o ddiogelwch rhag:

  • gastro-enteritis 
  • heintiau ar y frest a’r glust
  • diabetes
  • alergeddau ac afiechydon eraill.  

Bydd hefyd yn diogelu mamau rhag rhai mathau o ganser ac esgyrn gwan yn ddiweddarach mewn bywyd. 

Dilynwch y dolenni ar y dudalen hon i gael gwybod rhagor am:

  • y busnesau yn eich ardal sy’n cefnogi’r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron
  • eich grŵp bwydo ar y fron lleol a manylion gweithgareddau rheolaidd yn eich ardal
  • y Fenter Cyfeillgar i Babanod UNICEF mewn ysbytai a chymunedau yng Nghymru
  • y cyngor hanfodol ar fwydo ar y fron a dychwelyd i’r gwaith – i famau a chyflogwyr
  • manteision cymryd atchwanegiadau Fitamin D – i famau yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod bwydo ar y fron, ac i blant bach yn eu blynyddoedd cynnar.

"Bwydo ar y fron"

Mae disg amlbwrpas digidol (DVD) wedi cael ei gynhyrchu ar gyfer rhieni dan y teitl 'From bump to breastfeeding.' Am ragor o wybodaeth ac i wylio darn o'r DVD ewch i wefan best beginnings (dolen allanol, Saesneg yn unig) 

Cyhoeddi cyngor diwygiedig ar fwyta pysgnau pan yn feichiog, yn bwydo ar y fron, neu yn y misoedd cynnar.

Mae Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) Cymru nawr yn cynghori:

  • Ei bod yn ddiogel i famau sy’n feichiog neu’n bwydo ar y fron fwyta pysgnau neu fwydydd sy’n cynnwys pysgnau, p’un a oes hanes o alergeddau yn eu teulu ai peidio.
  • Y dylai mamau fwydo’u babanod ar y fron yn unig hyd at 6 mis. Os bydd mam am ddechrau rhoi bwydydd solet yn gynharach na hynny, ni ddylai roi pysgnau na chnau eraill, hadau, llaeth, wyau, gwenith, pysgod, pysgod cregyn (neu fwydydd sy’n cynnwys y rhain) tan ar ôl y 6 mis cyntaf.
  • Y dylai’r fam siarad â’i Meddyg Teulu, Ymwelydd Iechyd neu’r arbenigwr meddygol priodol os bydd gan blentyn alergedd sy’n hysbys, neu os bydd gan ei deulu agos hanes o alergeddau.
Dolenni cysylltiedig allanol

Am wybodaeth bellach ewch i wefan yr ASB

Ewch at wefan ‘Bwyta’n Iach, Teimlo’n Iach’ yr ASB am alergedd i bysgnau – cyngor cyffredinol

Ceir gwybodaeth fanylach am fwydo babanod a’u diddyfnu ar wefan NHS Choices (Saesneg yn unig).