Skip to content

Y cynllun gweithredu gweithgarwch corfforol 'creu Cymru egnïol'

Dolenni perthnasol

Rydym yn awyddus i gael sylwadau’r mudiadau a’r grwpiau proffesiynol a enwir yn y ddogfen
Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yw’r broses a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod adrannau’n ystyried yr effeithiau ar gydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio i greu amgylchedd sy'n hyrwyddo gweithgarwch corfforol ym mhob rhan o’r gymdeithas.
Ein nod yw rhoi cyfleoedd i bawb gymryd rhan mewn gweithgareddau diogel ac iach.

Mae ‘Creu Cymru Egnïol’ yn dangos sut y bydd y llywodraeth a'i phartneriaid yn cyflawni hyn.

Cytunwyd ar gamau blaenoriaeth dan bedwar nod strategol.

Amgylchedd Egnïol

Datblygu a chynnal amgylchedd ffisegol sy’n ei gwneud hi’n haws ac yn ddiogelach i bobl ddewis bod yn fwy egnïol.

Plant a Phobl Ifanc Egnïol

Cefnogi plant a phobl ifanc i fyw bywydau egnïol a dod yn oedolion egnïol.

Oedolion Egnïol

Annog rhagor o oedolion i fod yn fwy egnïol, yn fwy aml, gydol eu hoes.

Chwaraeon i Bawb

Cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon, ym mhob rhan o’r boblogaeth.

Ynghyd â'r cynllun, mae Llywodraeth y Cynulliad yn datblygu canllawiau ar gyfer ei phartneriaid ar sut y gallant hwy gyfrannu at y gwaith o weithredu'r cynllun.  Bydd y ddolen ganlynol yn mynd â chi i'r ddogfen a'r holiadur ymgynghori.