Skip to content

Asesu'r effaith ar iechyd

Mae asesu'r effaith ar iechyd yn edrych ar y materion ehangach sy'n gallu effeithio ar iechyd a lles pobl.

Gall Asesu'r Effaith ar Iechyd wneud cyfraniad gwerthfawr at Her Iechyd Cymru, y ffocws cenedlaethol ar gyfer gweithredu i wella iechyd a lles. Mae'n archwilio polisïau a mentrau lleol a chenedlaethol i:

  • leihau unrhyw effaith negyddol; a
  • rhoi mwy o gyfleoedd i bobl wella eu hiechyd.

Gellir defnyddio asesu'r effaith ar iechyd yn ystod unrhyw gam o ddatblygu polisi neu brosiect.  Mae pum prif gyfnod:

  • sgrinio - penderfynu a oes angen Asesu'r Effaith ar Iechyd;
  • cwmpasu - penderfynu ar ffocws, dulliau a chynllun gwaith;
  • asesu - sefydlu'r effeithiau ar iechyd;
  • adrodd - cynhyrchu adroddiad ar yr asesiad;
  • monitro a gwerthuso'r broses - gwerthuso sut y defnyddiwyd y wybodaeth - pa mor ddefnyddiol oedd hi a'i heffaith ar y broses o wneud penderfyniadau.

Gall sefydliadau a grwpiau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol asesu'r effaith ar iechyd.  Gellir ei ddefnyddio yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  

Mae asesu'r effaith ar iechyd yn cynnig modd systematig o ystyried iechyd fel rhan o'r prosesau cynllunio a phenderfynu, ac mae'n annog y cyhoedd i gymryd rhan.