Skip to content

Y Model Cymdeithasol o Anabledd

Mae’r Model Cymdeithasol o anabledd yn datgan mai pobl ag amhariadau, sy’n cael eu gwneud yn anabl gan eu hamgylchedd, yw pobl anabl. Mae’r Model hwn yn cael ei gydnabod gan bobl anabl, a chafodd ei fabwysiadu’n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru yn 2002.

Gan fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r Model Cymdeithasol o anabledd yn ffurfiol, rhaid i’r iaith yr ydym yn ei defnyddio, a’r polisïau a’r gwasanaethau yr ydym yn eu cyflenwi, adlewyrchu’r model hwn.

Beth yw’r Model Cymdeithasol o Anabledd?

Mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn gwahaniaethu rhwng 'amhariad' ac 'anabledd'; gwahaniaeth sy'n bwysig iawn. Mae'n cydnabod bod pobl ag amhariadau yn anabl o ganlyniad i rwystrau sy'n gyffredin mewn cymdeithas. Mewn termau syml, nid yr anallu i gerdded sy'n rhwystro person rhag cael mynediad i adeilad heb gymorth, ond presenoldeb grisiau sy'n anhygyrch i rywun sy'n defnyddio cadair olwyn. Mewn geiriau eraill, rhywbeth sydd wedi cael ei greu gan gymdeithas yw 'anabledd'.

Mae’r Model Cymdeithasol o anabledd yn gosod rheidrwydd ar gymdeithas i ddileu rhwystrau er mwyn sicrhau bod gan bawb gyfle cyfartal.

Pwy feddyliodd am y syniad o Fodel Cymdeithasol o Anabledd?

Cafodd y Model Cymdeithasol ei lunio gan bobl sy'n anabl eu hunain i egluro pa fath o rwystrau sy’n eu hatal rhag cael cyfle cyfartal. Mae profiadau wedi dangos i Lywodraeth Cynulliad Cymru mai'r ffordd y mae cymdeithas wedi'i threfnu, nid amhariadau, sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o broblemau y mae pobl anabl yn eu hwynebu. Mae agwedd pobl at anabledd, a rhwystrau corfforol a sefydliadol, yn rhai o'r rhwystrau sy’n eu hwynebu.

Beth yw agwedd y DU at y Model Cymdeithasol o Anabledd?

Yn y Deyrnas Unedig, mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn diffinio anabledd drwy ddefnyddio'r Model Meddygol. Mae pobl anabl yn cael eu diffinio fel pobl â chyflyrau penodol, neu gyfyngiadau penodol ar eu gallu i ymgymryd â 'gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.’

Fodd bynnag, mae'r gofyniad ar gyflogwyr a darparwyr gwasanaeth i wneud 'addasiadau rhesymol' i'w polisïau neu eu harferion, neu i agweddau ffisegol ar eu lleoliadau, yn dilyn y Model Cymdeithasol.

A ydy Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r Model Cymdeithasol o Anabledd?

Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y Model Cymdeithasol o Anabledd yn 2002. Er bod Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 yn diffinio anabledd fel amhariad corfforol neu feddyliol, anhawster dysgu neu gyflwr iechyd sy'n cael effaith andwyol sylweddol hirdymor ar unigolion wrth iddynt ymgymryd â gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd, mae'r Model Cymdeithasol yn dadlau mai cymdeithas sy'n creu'r rhwystrau mewn agwedd a'r rhwystrau corfforol sy'n analluogi pobl. Mae'r Model Cymdeithasol yn ddull cadarnhaol o ystyried anabledd, ac yn canolbwyntio ar ddileu rhwystrau i gydraddoldeb. Os oes angen addasiadau rhesymol ar unrhyw un, er mwyn gweithredu ar sail gyfartal, a hynny os ydych yn cydymffurfio â diffiniad y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ai peidio, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fodloni eu hanghenion.

Sut y mae hynny yn effeithio ar fy ngwaith o ddydd i ddydd?

Mewn 2 ffordd:

  • Yn gyntaf, dylai pob cyfeiriad at bobl anabl ddefnyddio iaith sy’n gyson â’r Model Cymdeithasol o anabledd. ‘Person anabl’ neu ‘bobl anabl’ yw’r ffordd briodol o ddisgrifio pobl ag amhariadau sy’n anabl o ganlyniad i rwystrau mewn cymdeithas. Mae defnyddio ‘pobl ag amhariadau’ yn dderbyniol wrth gyfeirio at amhariad yn hytrach nag anabledd. Ni ddylid defnyddio ‘pobl ag anableddau’. Ni ddylid defnyddio ‘yr anabl’, ac ni ddylid defnyddio’r gair Saesneg ‘handicapped’. Mae defnyddio’r iaith briodol yn bwysig, gan fod gwneud hynny yn sicrhau bod y materion yn cael eu deall yn iawn.
  • Yn ail, mae’n hanfodol cynllunio pob polisi a gwasanaeth yn unol â’r Model Cymdeithasol, gan sicrhau nad yw ein gweithredoedd yn creu rhwystrau sy’n golygu bod pobl ag amhariadau yn anabl ac sydd, felly, yn rhwystro cydraddoldeb.

Beth yw'r Model Meddygol o Anabledd?

Model sy’n diffinio anabledd yn y ffordd draddodiadol, sef fel rhywbeth sydd gyfystyr ag amhariad, yw'r Model Meddygol o Anabledd. Mae anabledd yn cael ei ystyried fel rhywbeth sy’n ganlyniad i gyflwr corfforol, ac fel rhywbeth sydd, yn anorfod, yn cyfyngu ar gyfleoedd bywyd unigolyn. Yn ôl y model hwn, dylai cymdeithas ystyriol neu gymdeithas gyfiawn fuddsoddi arian i geisio gwella ‘anableddau’ (amhariadau) yn feddygol, neu wella'r ffordd y maent yn gweithredu a gwneud pobl anabl yn fwy "normal". O dan y Model Meddygol, mae gan y proffesiwn meddygol gyfrifoldeb a photensial sylweddol i helpu pobl anabl.  

Yn ôl y Model Meddygol o anabledd, y person anabl yw’r broblem. Mae’r pwyslais ar yr amhariad, yn hytrach nag ar gael gwared ar y rhwystrau sy’n effeithio ar y person.

Sut y mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn wahanol i'r Model Meddygol o Anabledd?

Mae'r Model Cymdeithasol yn canolbwyntio ar gydraddoldeb a dileu rhwystrau sy’n atal pobl anabl rhag cymryd rhan yn y gymdeithas ar sail gyfartal â’u cyfoedion nad ydynt yn anabl.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Amhariad ac Anabledd?

Amhariad

Dyma rai enghreifftiau o bobl ag amhariad; person sydd wedi colli coes, person sy'n dioddef o anhawster dysgu ac sy'n ei chael hi'n anodd cofio pethau, hefyd person â nam ar y golwg, neu berson byddar, neu berson sy'n dioddef o epilepsi, neu sbasm yn y cyhyrau, neu gyflwr hirdymor.  

Anabledd

Mae anabledd yn digwydd pan mae person yn cael ei eithrio, gan rwystrau sy’n effeithio ar bobl ag amhariad, o rywbeth y mae pobl eraill yn y gymdeithas yn ei gymryd yn ganiataol. Gallai hynny fod yn gyfle i fynychu digwyddiad, defnyddio gwasanaeth neu gymryd rhan mewn gweithgarwch. Gallai fod yn gyfle i fyw'n annibynnol, ennill cyflog, neu gael gwybodaeth, neu wneud eu penderfyniadau eu hunain.  

Mae pobl yn aml yn rhagdybio mai'r amhariad sy'n achosi'r anabledd, ond nid yw hynny'n wir. Y dewisiadau y mae cymdeithas yn eu gwneud sy'n peri i rywun fod yn anabl. Mae rhai enghreifftiau isod:

  • Enghraifft 1 - os yw person byddar am fynychu cynhadledd, os nad oes dehonglwr iaith arwyddion yno, a dim dolen ar gyfer cymorth clyw (gan ddibynnu ar ei ofynion), yna mae’r person yn cael ei eithrio. Mae'n anabl. Ond, os oes dehonglwr yn cydweithio â'r siaradwyr, neu os oes dolen ar gael, gall y person gymryd rhan ar sail gyfartal. Mae'n dal i ddioddef o'r un nam ar y clyw, ond nid yw'n anabl.
  • Enghraifft 2 - mae rhywun sy'n defnyddio cadair olwyn am fynd ar fws. Os oes lle a mynediad i gadeiriau olwyn, mae'n abl i fynd ar y bws. Os nad oes, mae'n anabl.
  • Enghraifft 3 - mae person â nam ar y golwg am wybod mwy am yr hyn y mae'r cyngor yn ei wneud. Os oes gwybodaeth ar gael ar dâp, mae'n abl i gael gafael ar yr wybodaeth honno. Os nad oes ar gael, mae'n anabl.

Ble alla’ i gael rhagor o wybodaeth?

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, ewch i wefan Anabledd Cymru (Dolen allanol).