Skip to content

Cyflawni drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain: Cyngor i Wasanaethau Cyhoeddus

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.

Mae addasu gwasanaethau prif ffrwd i wneud darpariaeth effeithiol yn bosibl mewn BSL yn broses syml, gosteffeithiol.

Mae’r dudalen hon yn cynnwys cyngor am ddefnyddio dehonglwyr a thechnoleg i ddarparu gwasanaethau mewn BSL.

Mae cynhwysiant cymdeithasol a hawl gyfartal i wasanaethau ar gyfer Defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn faterion hollbwysig o ran cydraddoldeb a hawliau dynol. Yn aml, mae’r bobl sy’n defnyddio BSL fel iaith bob dydd i gyfranogi yn ein cymdeithas yn cael eu hanwybyddu gan nad oes llawer iawn ohonynt. Mae hyn yn golygu bod y bobl sy’n rhan o’r lleiafrif ieithyddol hwn yn cael eu hallgáu fwyfwy.

Mae dinasyddion sy’n defnyddio BSL yn dal i wynebu oedi annerbyniol wrth drefnu apwyntiadau, neu gofynnir iddynt ddod â ffrind i ddehongli, ymdopi drwy ddarllen gwefusau, neu ddefnyddio beiro a phapur i gyfathrebu mewn ail iaith nad ydynt yn hyddysg iawn ynddi efallai. Mae pob un o’r sefyllfaoedd hyn yn arwain at ansawdd gwaeth o wasanaeth a gwybodaeth, ac mae’n tynnu grym oddi wrth y defnyddiwr gwasanaeth.