Skip to content

Polisi Arfaethedig: Symud cynhyrchion tybaco rhag cael eu harddangos mewn mannau gwerthu

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Nod y polisi yw symud cynhyrchion tybaco a gwahardd eu hyrwyddo er mwyn annog pobl ifanc i beidio â dechrau smygu.

Y nod hefyd yw creu amgylchedd lle caiff pobl sydd am roi'r gorau i smygu y gefnogaeth i wneud hynny gan leihau biwrocratiaeth i fanwerthwyr.

Yn ôl gwaith ymchwil a wnaed, mae arddangos cynhyrchion tybaco yn hyrwyddo'r defnydd a wneir ohono. Mae arddangos tybaco yn annog pobl ifanc i roi cynnig ar smygu ac yn tanseilio ymdrechion pobl sydd am roi'r gorau i smygu drwy eu hannog i brynu ar hap. Mae arddangos cynhyrchion tybaco yn agored mewn siopau ledled Cymru yn her fawr i'r neges a roddir ar sail iechyd y cyhoedd fod smygu yn beryglus ac yn arwain at bobl yn mynd yn gaeth i'r arfer.

Mae'r darpariaethau sy'n ymwneud â thybaco yn Neddf Iechyd 2009 yn gwahardd yn gyffredinol arddangos cynhyrchion tybaco yn rhan o fusnes manwerthu. Golyga hyn na fydd siopau a busnesau eraill yn gallu arddangos cynhyrchion tybaco, megis pecyn o sigaréts, yn barhaol.