Skip to content

Dr Christianne Glossop

Dr Christianne Glossop
Pennodwyd Christianne Glossop yn Brif Swyddog Milfeddygol ar gyfer Cymru ym mis Mehefin 2005.

Yn gweithio o fewn Adran yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd Llywodraeth Cymru, mae hi'n bennaeth Swyddfa'r Prif Swyddfa’r Milfeddygol, sy'n gyfrifol am iechyd anifeiliaid a pholisi lles a strategaeth.  Ei phrif flaenoriaethau yw i fod yn barod ar gyfer unrhyw ymosodiad gan glefyd hysbysadwy ecsotig, ac i weithio tuag at ddileu TB yng Nghymru.

Fe gafodd Christianne ei chymwysterau o Goleg Milfeddygol Brenhinol, Prifysgol Llundain, lle cwblhawyd ganddi ei PhD ar agweddau o ffrwythlondeb gwartheg.  

Mae hi wedi arbenigo drwy gydol ei gyrfa ar gynhyrchu bwyd anifeiliaid a meddygaeth, gyda diddordeb arbennig  mewn technolegau bridio.  Hi yw Cyn Lywydd y Cymdeithasau Moch Rhyngwladol a Phrydeinig Milfeddygol, ac mae wedi gwasanaethu hefyd ar Ymddiriedolaeth y Bridiau Prin a’r Cynghorau Cymdeithasau Milfeddygol Prydeining.

Ymunodd â'r Gwasanaeth Milfeddygol Gwladol (Iechyd Anifeiliaid Asiantaeth Labordai Milfeddygol bellach) yn ystod epidemig 2001 y clwy Traed a’r Genau. Ei rôl olaf yn y sefydliad hwnnw oedd Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol yn Reading.