Skip to content

Coetiroedd i Gymru – ein strategaeth ar gyfer coetiroedd a choed yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion ein strategaeth am rheoli ceirw gwyllt yng Nghymru, ein gweledigaeth a chynllun gweithredu.
Os gwelwch air neu derm nad ydych yn ei ddeall, edrychwch ar yr eirfa yma am esboniad.
coedtir Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys wybodaeth am ein strategaeth ar gyfer coedtiroedd yng Nghymru, gan gynnwys y bedair them allweddol, a ddolenni i'n cynllun gweithredu a pholisi coedwigaeth.



Mae strategaeth Coetiroedd i Gymru yn amlinellu ein cynllun 50 mlynedd ar gyfer datblygu a defnyddio coetiroedd a choed Cymru fel bod pobl Cymru yn gallu cael y gorau o’r adnoddau gwerthfawr hyn.

Mae’r strategaeth yn esbonio:

  • sut y gallwn gynyddu’r coed yn ein trefi a dinasoedd
  • sut i wneud ein coedlannau’n fwy amrywiol trwy blannu mwy o fathau o goed sy’n ymateb yn well i’r newid yn yr hinsawdd

Dyma bedair thema’r strategaeth:

  • Ymateb i’r newid yn yr hinsawdd 
    Coed a choetiroedd leddfu effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r Strategaeth yn amlinellu cynlluniau uchelgeisiol i helpu Cymru i leihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr y mae’n eu cynhyrchu.
     
  • Coetiroedd i bobl
    Mae modd i bawb o bob man fwynhau coetiroedd Cymru.  Maent yn lleoedd i hamddena ynddynt ac mae llawer i ddysgu mewn coetiroedd hefyd a hyn oll yn yr awyr agored.  Hefyd, os hoffech wneud mwy o weithgareddau egnïol neu gadw’n ffit hyd yn oed, mae coetiroedd Cymru yn le gwerth chweil i wneud hynny.  Yn ogystal, mae coetiroedd Cymru yn leoedd da i ddatblygu prosiectau cymunedol hefyd.
     
  • Sector coedwigaeth cystadleuol ac integredig
    Mae’r strategaeth yn esbonio sut y gallwn ddatblygu diwydiannau arloesol a medrus a chynnal lefelau cynhyrchu pren yn unol ag ymdrechion y Llywodraeth i hyrwyddo’r adnodd adnewyddadwy hwn ac i gynyddu’r galw amdano.
     
  • Ansawdd yr amgylchedd
    Bbydd datblygu ein coetiroedd a’n coed yn ein helpu i wneud cyfraniad adeiladol at fioamrywiaeth, tirweddau a threftadaeth. Bydd lleihau’r pwysau a roddwn ar yr amgylchedd.  

Mae’r gwaith a wnawn i gynyddu’r arwynebedd sydd dan goed yng Nghymru yn cyd-fynd â’r ymrwymiad i greu coedwig genedlaethol o goed cynhenid i weithredu fel dalfa garbon.  Mae ein prosiect arloesol ‘Plant!’ yn ein helpu i wneud hyn gan ei fod yn sicrhau bod coeden newydd yn cael ei phlannu ar gyfer pob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru.

Cynllun Gweithredu Coetiroedd i Gymru

Mae Cynllun Gweithredu Coetiroedd i Gymru (Adolygwyd ym mis Mawrth 2012) yn gosod ger bron yr hyn a gynllunnir dros y pum mlynedd nesaf i sicrhau cynnydd at gyflawni amcanion Coetiroedd I Gymru, strategaeth 50 mlynedd, coed a choetiroedd Llywodraeth Cymru.

Ym Mholisi Coedwigaeth Llywodraeth Cymru mae rhagor o wybodaeth a thystiolaeth ynghylch yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni gyda Strategaeth Coetiroedd i Gymru.

Prosiect Ymchwil Ystad Coetiroedd Llywodraeth y Cynulliad

Yn Rhagair Coetiroedd i Gymru, comisiynodd Elin Jones (y Gweinidog dros Faterion Gwledig), astudiaeth i rôl y coetiroedd sy’n eiddo cyhoeddus o ran cyflwyno’r strategaeth. Datblygom hon ar ffurf Prosiect Ymchwil yn ystod 2010 a cheir crynodeb o’r prif ganfyddiadau isod.

Dangosyddion Coetiroedd i Gymru

Cyhoeddwyd Dangosyddion Coetiroedd i Gymru adolygwyd ym mis Mehefin 2012. Mae'n nodi’r dangosyddion yr ydym yn eu defnyddio i fesur sut yr awn ati i gyflawni’r 20 canlyniad lefel uchel sydd yn Coetiroedd i Gymru.

Disgrifir 23 o ddangosyddion yn y strategaeth ac fe’i rhestrir ar dudalennau 54 a 55. Er y gallwn adrodd yn llawn ar rai o'r dangosyddion rydym yn dal i ddatblygu rhai ohonynt.  Lle bo modd, datblygwyd y dangosyddion i ddilyn y tueddiadau am oes y strategaeth, sef 50 mlynedd.  Byddwn yn diweddaru'r adroddiad yn rheolaidd.

Dangosyddion coetiroedd i Gymru wedi’w adolygu Mehefin 2012

15/05/13
Dyma’r trydydd adroddiad dangosyddion ers gael ei hadolygu ym mis Mawrth 2009.
 

Adroddiad ymchwil ystad goetir Llywodraeth

14/05/13
Mae’r papur hwn yn crynhoi prosiect ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i adolygu rôl ei hystad goetir o ran cyflwyno Coetiroedd i Gymru.
 

Cynllyn Gweithredu 2010 - 2015 Coetiroedd i Gymru

14/05/13
Bydd y camau gweithredu yn y Cynllun hwn yn helpu i gyflawni 20 canlyniad Coetiroedd i Gymru, sydd wedi’u grwpio o dan 5 thema strategol.
 

Polisi Coedwigaeth Llywodraeth Cymru

24/04/13
Mae safbwynt polisi Llywodraeth Cymru yma'n rhoi cefndir pellach a thystiolaeth ar gyfer y canlyniadau a geisir yn strategaeth Coetiroedd i Gymru Llywodraeth Cymru.
 

Cynllun Gweithredu Coetiroedd i Gymru

24/01/11
Wedi ei gyhoeddi gyntaf yn 2001, adolygwyd Coetiroedd i Gymru a’i ail-lansio ym mis Mawrth 2009 yn dilyn ymgynghori helaeth â’r cyhoedd.
 

Coetiroedd i Gymru – y strategaeth ar gyfer coetiroedd a choed

24/01/11
Mae'r strategaeth hynod uchelgeisiol hon yn ceisio dangos sut y gallai coetiroedd a choed gyfrannu mwy fyth pe baem yn gwneud penderfyniadau mentrus yn awr.
 

Coetiroedd i Gymru – y strategaeth ar gyfer coetiroedd a choed: Taflen gryno

24/01/11
Rydym wedi diweddaru Coetiroedd i Gymru er mwyn ystyried materion y clywir llawer o sôn amdanynt dyddiau hyn, megis y newid yn yr hinsawdd. Rydym yn cydnabod y gall coetiroedd a choed gynnig llawer o fanteision, a bod hynny'n digwydd yn barod.
 

Adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i ddiwygio Coetiroedd i Gymru – Strategaeth Coetiroedd Cymru

24/01/11
Lansiwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i ddiwygio Coetiroedd i Gymru gan y Gweinidog Elin Jones ar 22 Gorfennaf ac fe ddaeth i ben ar 14 Hydref 2008. Rheolwyd yr ymgynghoriad gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru (CCC) ar ran LICC.